Ewch i’r prif gynnwys

Rhedwch Marathon Llundain ar gyfer #TeamCardiff

Ymunwch â #TeamCardiff a rhedwch dros ymchwil Prifysgol Caerdydd ym Marathon Llundain TCS ar Ddydd Sul 27 Ebrill 2025.

A chithau’n rhan o #TeamCardiff gallwch ddewis cefnogi naill ai niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl neu ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd. Drwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch chi helpu i ddod o hyd i ddarganfyddiadau yn gyflymach. Bydd hyn yn newid bywydau er mwyn gwella’r gwaith o atal, rhoi diagnosis a chynnig triniaeth i bobl sy'n byw gydag ystod eang o gyflyrau.

Rhedeg Marathon Llundain TCS

Ydych chi wedi bod yn ddigon ffodus i sicrhau lle yn y digwyddiad torfol hwn? Os felly, byddem wrth ein bodd yn eich cael chi yn rhan o #TeamCardiff.

Byddwch yn derbyn top technegol #TeamCardiff i’w wisgo ar y diwrnod, a chewch gymorth ac arweiniad personol gyda'ch hyfforddiant a chodi arian. Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn codi cymaint ag y gallwch ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd drwy osod eich targed codi arian eich hun.

Dywedwch wrthym eich bod eisiau rhedeg gyda #TeamCardiff

Rhedeg Marathon Llundain TCS MyWay

Ddim mor lwcus? Mae yna ffordd o hyd i ymuno â marathon mwyaf y byd drwy gymryd rhan yn rhithwir ym Marathon Llundain TCS MyWay. Cewch gwblhau’r 26.2 milltir lle bynnag rydych chi yn y byd, ar eich cyflymder eich hun, yr un diwrnod â'r digwyddiad torfol yn Llundain.

Bydd tîm Marathon Llundain TCS hefyd yn rhoi rhif rhedeg ichi, pecyn gwybodaeth cyn y digwyddiad yn ogystal â mynediad at yr ap swyddogol TCS yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio ar y diwrnod. Ar ôl gorffen, byddwch chi hefyd yn gallu hawlio'r fedal swyddogol a’r crys-T ganddyn nhw!

I gael gwybod rhagor ac i gystadlu, ewch i wefan London Marathon TCS.

Unwaith y byddwch chi wedi cadw eich lle, byddwn ni wrth ein boddau’n clywed gennych a'ch croesawu i #TeamCardiff. Byddwch yn derbyn crys technegol #TeamCardiff i’w wisgo ar y diwrnod, a chewch gymorth ac arweiniad personol o ran eich hyfforddiant a chodi arian. Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn codi cymaint ag y gallwch ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd drwy osod eich targed codi arian eich hun.

Dywedwch wrthym eich bod eisiau rhedeg gyda #TeamCardiff

I gael rhagor o wybodaeth am y marathon, ewch i wefan Marathon Llundain.

Yr arian yr ydych yn ei godi

Bydd 100% o'r arian y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei dderbyn drwy’r ymdrechion codi arian hyn yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol ar gyfer y maes ymchwil o’ch dewis yn y Brifysgol.

Cysylltu â ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni a gallwn helpu gyda'r holl gyngor a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch i gyrraedd eich targed.

Picture of Stephanie Cuyes

Stephanie Cuyes

Swyddog Codi Arian Cymunedol

Telephone
+44 29208 76551
Email
CuyesS@caerdydd.ac.uk