Ewch i’r prif gynnwys

Ras Rhedeg yn Alton Towers

Ymgymerwch â her o redeg 5 cilometr, 10 cilometr, neu Hanner Marathon o amgylch y parc thema mwyaf poblogaidd yn y DU, sef Alton Towers, dydd Sadwrn 15 a dydd Sul 16 Tachwedd 2025.

Ac yntau ar gau i'r cyhoedd, rhedwch o amgylch y parc a manteisio i’r eithaf ar yr holl reidiau fydd YN RHAD AC AM DDIM am weddill y dydd (gwerth £34)!

Cofrestru a chodi arian

Yn syml iawn, y cyfan y mae angen ichi ei wneud yw talu’r ffi gofrestru, creu eich tudalen JustGiving a lledaenu’r gair. Rydyn ni’n gofyn i redwyr y ras Alton Towers i godi'r symiau isod tuag at ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd:

  • ar gyfer y rhai sy’n rhedeg y 5 cilometr, gofynnwn ichi godi £75
  • ar gyfer y rhai sy’n rhedeg y 10 cilometr, gofynnwn ichi godi £100
  • ar gyfer y rhai sy’n rhedeg Hanner Marathon, gofynnwn ichi godi £150

A chithau’n rhan o #TeamCardiff gallwch chi ddewis codi arian ar gyfer naill ai niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl neu ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd. Drwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch chi helpu i gyflymu darganfyddiadau sy'n newid bywydau i wella’r gwaith o atal, rhoi diagnosis a thrin pobl sy'n byw gyda chyflyrau megis canser, clefyd Alzheimer, Parkinson, iselder ysbryd a sgitsoffrenia.

Sylwer bod lleoedd #TeamCardiff yn brin ym mhob digwyddiad, felly’r cyntaf i’r felin yw hi.

Cofrestru


Gwyliwch y fideo

Yr arian y byddwch chi’n ei godi

Bydd 100% o'r arian y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei dderbyn drwy’r ymdrechion codi arian hyn yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol ar gyfer y maes ymchwil o’ch dewis yn y Brifysgol.

Sut byddwn ni’n eich cefnogi

  • Crys-T neu fest technegol #TeamCardiff rhad ac am ddim wedi'i wneud o blastig wedi'i ailgylchu, unwaith y byddwch chi’n codi dros £50
  • E-byst #TeamCardiff sy’n cynnwys cyngor ar godi arian a hyfforddi ar gyfer y ras
  • Cewch chi becyn adnoddau digidol #TeamCardiff; ynddo ceir graffeg cyfryngau cymdeithasol, ffurflen noddi a syniadau ar gyfer codi arian
  • aelod penodol o'r tîm i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi

Cysylltwch â ni

Stephanie Cuyes

Stephanie Cuyes

Swyddog Codi Arian Cymunedol

Email
donate@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6473