Ewch i’r prif gynnwys

Ras Rhwystrau Chwythadwy

A man running the inflatable course

Profiad chwim, hwyliog a bythgofiadwy yw’r ras rhedeg rhwystrau chwythadwy. Rhedwch, neidiwch, llithrwch a sbonciwch eich ffordd drwy’r cwrs rhwystrau 5 cilometr mwyaf yn y byd.

Cewch chi’r opsiwn i gymryd rhan naill ai mewn ras 2.5 cilometr, 5 cilometr, 10 cilometr neu 15 cilometr! A hwythau’n ddelfrydol i’w taclo yng nghwmni eich cyfeillion, caiff digwyddiadau eu cynnal ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys ym Mryste ac yn Cheltenham. Sylwer bod lleoedd #TeamCardiff yn brin ym mhob digwyddiad, felly’r cyntaf i’r felin yw hi.

Cofrestru a chodi arian

Yn syml iawn, y cyfan y mae angen ichi ei wneud yw talu’r ffi gofrestru, creu eich tudalen JustGiving a lledaenu’r gair. Rydyn ni’n gofyn i godwyr arian sy'n rhedeg mewn ras rhwystrau chwythadwy i godi £75 tuag at ymchwil Prifysgol Caerdydd.

A chithau’n rhan o #TeamCardiff gallwch chi ddewis codi arian ar gyfer naill ai niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl neu ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd. Drwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch chi helpu i gyflymu darganfyddiadau sy'n newid bywydau i wella’r gwaith o atal, rhoi diagnosis a thrin pobl sy'n byw gyda chyflyrau megis canser, clefyd Alzheimer, Parkinson, iselder ysbryd a sgitsoffrenia.

Cofrestru

Mynnwch gip ar rasau rhedeg rhwystrau chwyddadwy eraill sy’n digwydd ledled y Deyrnas Unedig.

Gwyliwch y fideo

Yr arian y byddwch chi’n ei godi

Bydd 100% o'r arian y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei dderbyn drwy’r ymdrechion codi arian hyn yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol ar gyfer y maes ymchwil o’ch dewis yn y Brifysgol.

Sut byddwn ni’n eich cefnogi

  • Crys-T neu fest technegol #TeamCardiff rhad ac am ddim wedi'i wneud o blastig wedi'i ailgylchu, unwaith y byddwch chi’n codi dros £50
  • E-byst #TeamCardiff sy’n cynnwys cyngor ar godi arian a hyfforddi ar gyfer y ras
  • Cewch chi becyn adnoddau digidol #TeamCardiff; ynddo ceir graffeg cyfryngau cymdeithasol, ffurflen noddi a syniadau ar gyfer codi arian
  • aelod penodol o'r tîm i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi

Cysylltwch â ni

Stephanie Cuyes

Stephanie Cuyes

Swyddog Codi Arian Cymunedol

Email
cuyess@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6551