Ewch i’r prif gynnwys

Straeon codi arian

Rydym wrth ein bodd yn rhannu cyflawniadau ein cymuned #TeamCardiff, ac yn dathlu ei llwyddiannau. Darllenwch am yr hyn mae ein codwyr arian wedi bod yn ei wneud, yn ogystal â'n cyngor ac awgrymiadau. Os hoffech rannu eich stori neu gymryd rhan mewn digwyddiad codi arian, cysylltwch â donate@caerdydd.ac.uk.

Hanner Marathon Caerdydd: Ffordd berffaith i ddathlu Sul y Mamau

Hanner Marathon Caerdydd: Ffordd berffaith i ddathlu Sul y Mamau

15 Chwefror 2022

Mae Kate Morgan (BA 2017, MA 2020) yn rhedeg ei hanner marathon cyntaf ym mis Mawrth 2022 i godi arian ar gyfer ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Caerdydd. Nid yw wedi bod yr amser hawsaf i hyfforddi, ac esbonia Kate beth sy’n ei chymell hi a sut y mae hi wedi gwneud ei gorau glas i aros ar y trywydd iawn, er gwaethaf y cyfnodau clo, y cyfyngiadau a’r oedi.  

Rhedwr cyfnod clo yn cystadlu yn ei hanner marathon cyntaf

Rhedwr cyfnod clo yn cystadlu yn ei hanner marathon cyntaf

29 Tachwedd 2021

Dechreuodd Mark Woolner (BScEcon 1995) redeg yn ystod cyfnod clo cyntaf y DU ac mae'n dychwelyd i Gaerdydd bron i 30 mlynedd ar ôl graddio, i gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd yn 2022. Mae'n rhannu ei gymhelliant, ei ysbrydoliaeth a'r hyn y mae'n edrych ymlaen ato ar ddiwrnod y ras.

Rhedwyr Marathon Llundain #TîmCaerdydd yn codi arian i ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd

Rhedwyr Marathon Llundain #TîmCaerdydd yn codi arian i ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd

22 Medi 2021

Marathon Llundain yw un o ddigwyddiadau rhedeg mwyaf poblogaidd y byd ac mae'n codi miliynau i elusennau bob blwyddyn. Ar ôl cael ei ohirio yn 2020, mae'r byd yn fwy awyddus nag erioed i fwynhau’r digwyddiad eleni a gynhelir ddydd Sul 3 Hydref 2021. Gydag ond ychydig o wythnosau ar ôl i hyfforddi, mae rhedwyr #TîmCaerdydd eleni yn ymateb i’r her.