Ewch i’r prif gynnwys

Straeon codi arian

Rydym wrth ein bodd yn rhannu cyflawniadau ein cymuned #TeamCardiff, ac yn dathlu ei llwyddiannau. Darllenwch am yr hyn mae ein codwyr arian wedi bod yn ei wneud, yn ogystal â'n cyngor ac awgrymiadau. Os hoffech rannu eich stori neu gymryd rhan mewn digwyddiad codi arian, cysylltwch â donate@caerdydd.ac.uk.

Rydw i eisiau gwneud fy Nan yn falch ohona i – codi arian dros waith ymchwil canser Caerdydd

Rydw i eisiau gwneud fy Nan yn falch ohona i – codi arian dros waith ymchwil canser Caerdydd

15 Awst 2023

Mae'r gyn-fyfyrwraig Katy Thomas (BA 2004) yn rhedwr Hanner Marathon Caerdydd profiadol ac yn dechrau ar ei thrydedd ras ar ddeg ym mis Hydref. Ar ôl colli sawl aelod agos o'i theulu i ganser, mae hi wedi cael ei hysbrydoli i godi arian dros ymchwil Prifysgol Caerdydd a fydd yn gwella gwaith i atal canser, ei ddiagnosio a’i drin.

Cynfyfyriwr yn codi dros £5,000 yn dilyn ei nith yn cael diagnosis o gyflwr prin

Cynfyfyriwr yn codi dros £5,000 yn dilyn ei nith yn cael diagnosis o gyflwr prin

3 Mai 2023

Mae'r cynfyfyriwr Gavin Jewkes (BA 2011, PgDip 2012) wedi gosod yr her iddo'i hun o redeg Hanner Marathon Hackney y mis nesaf i godi arian ar gyfer ymchwil i gyflwr prin y cafodd ei nith fach ddiagnosis ohono y llynedd.

Cefnogi ymchwil canser sy’n trawsnewid bywydau – Mollie Lewis (BSc 2022)

Cefnogi ymchwil canser sy’n trawsnewid bywydau – Mollie Lewis (BSc 2022)

8 Mawrth 2023

Mae Mollie Lewis (BSc 2022) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref i helpu i godi arian ar gyfer yr ymchwil canser sy'n trawsnewid bywydau a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd. Gan mai dyma’r tro cyntaf iddi redeg hanner marathon, mae Mollie yn rhannu ei syniadau am ddechrau ymarfer yn ogystal â’r gefnogaeth anhygoel y mae wedi’i chael gan deulu, ffrindiau a #TeamCardiff.

Codwyr arian #TeamCardiff yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd

Codwyr arian #TeamCardiff yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd

3 Hydref 2022

Ddydd Sul 2 Hydref, rhedodd tua 70 o gynfyfyrwyr, myfyrwyr a staff yn Hanner Marathon Caerdydd, i godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff. Eu nod yw codi £25,000 ar gyfer niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, ac ymchwil canser.

Rhedeg dros ymchwil iechyd meddwl – Gethin Bennett

Rhedeg dros ymchwil iechyd meddwl – Gethin Bennett

20 Medi 2022

Mae Gethin Bennett (LLB 2015, PgDip 2016) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref er cof am ei dad, a fu farw yn 2007 o ganlyniad i iselder. Cafodd Gethin yr ysfa i redeg tra'n astudio dramor yn 2016 ac mae wedi rhedeg yr hanner marathon ddwywaith o'r blaen. Mae'n rhannu ei awgrymiadau gyda’r rhai sy'n ystyried dechrau rhedeg yn ogystal â'r hyn y mae'n edrych ymlaen ato ar y diwrnod.

10 syniad i gael hwyl wrth godi arian

10 syniad i gael hwyl wrth godi arian

18 Awst 2022

P’un oeddech chi wedi cofrestru i redeg yn Hanner Marathon Caerdydd neu’n gwneud eich peth eich hun, rydyn ni wedi llunio rhai syniadau codi arian syml (a hawdd) fydd yn […]

Cofio Reesh – dweud ‘ie’ i fywyd a rhedeg Hanner Marathon Caerdydd

Cofio Reesh – dweud ‘ie’ i fywyd a rhedeg Hanner Marathon Caerdydd

25 Mai 2022

Mae Laura Stephenson (BA 2008) wedi cofrestru i redeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Medi er cof am ei ffrind, Areesha. Mae hi’n codi arian ar gyfer ymchwil canser Prifysgol Caerdydd a chafodd ei hysbrydoli gan gryfder ei ffrind yn wyneb diagnosis dinistriol, ac agwedd ‘dweud ie i bopeth’.

#TeamCardiff i gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd i godi arian

#TeamCardiff i gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd i godi arian

14 Mawrth 2022

Ddiwedd mis Mawrth, bydd rhedwyr #TeamCardiff yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar ôl i’r ras gael ei ohirio am 18 mis oherwydd y pandemig, mae'r tîm o 350 o staff, myfyrwyr, cynfyfyrwyr a ffrindiau am geisio codi £70,000 ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, ac ar gyfer ymchwil canser.

Hanner Marathon Caerdydd: Ffordd berffaith i ddathlu Sul y Mamau

Hanner Marathon Caerdydd: Ffordd berffaith i ddathlu Sul y Mamau

15 Chwefror 2022

Mae Kate Morgan (BA 2017, MA 2020) yn rhedeg ei hanner marathon cyntaf ym mis Mawrth 2022 i godi arian ar gyfer ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Caerdydd. Nid yw wedi bod yr amser hawsaf i hyfforddi, ac esbonia Kate beth sy’n ei chymell hi a sut y mae hi wedi gwneud ei gorau glas i aros ar y trywydd iawn, er gwaethaf y cyfnodau clo, y cyfyngiadau a’r oedi.  

Rhedwr cyfnod clo yn cystadlu yn ei hanner marathon cyntaf

Rhedwr cyfnod clo yn cystadlu yn ei hanner marathon cyntaf

29 Tachwedd 2021

Dechreuodd Mark Woolner (BScEcon 1995) redeg yn ystod cyfnod clo cyntaf y DU ac mae'n dychwelyd i Gaerdydd bron i 30 mlynedd ar ôl graddio, i gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd yn 2022. Mae'n rhannu ei gymhelliant, ei ysbrydoliaeth a'r hyn y mae'n edrych ymlaen ato ar ddiwrnod y ras.