Digwyddiad Rhanbarthol Cronfa Ymchwil Heriau Byd-eang (GCRF) UKRI
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![GCRF logo](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0018/1430460/GCRF-logo-2019-2-1-10-55-16-269.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Mae UKRI yn llunio rhaglen o ddigwyddiadau ymgysylltu Cronfa Ymchwil Heriau Byd-eang (GCRF) yn y DU, a gynhelir rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2019. Mae’r digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle amserol i ymgysylltu ag Arweinwyr Heriau GCRF, cyfle i UKRI gyflwyno diweddariad ynghylch galwadau/gweithgareddau ODA (Cymorth Datblygu Swyddogol) sy’n fyw neu ar y gweill a chyfle i drafod pynciau allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft, dulliau rhyngddisgyblaethol, adeiladu partneriaethau teg a chyfartal, a chael yr effaith fwyaf posibl.
Mae’r digwyddiadau hyn yn agored i unrhyw un sy’n ymddiddori yn y GCRF a chyfleoedd o ran ymchwil i ddatblygu.
Bydd y digwyddiad yng Nghaerdydd yn canolbwyntio ar y pynciau canlynol:
- Systemau Bwyd
- Gwydnwch rhag Siociau a Newid Amgylcheddol
Mae manylion pellach ac agenda ar gael ar y dudalen gofrestru.
Hadyn Ellis Building
Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ