Trawsffurfio perthnasoedd mewn systemau bwyd rhanbarthol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Yn ddiweddar, mae Dr Angelina Sanderson Bellamy wedi ennill £645,000 ar gyfer prosiect ymchwil dwy flynedd gan raglen Diogelwch Bwyd Byd-eang ar gyfer “T-GRAINS: Trawsffurfio a Magu Perthnasoedd o fewn systemau bwyd rhanbarthol er mwyn gwella maeth a chynaliadwyedd”.
Mae T-GRAINS yn cyfuno dull sy’n seiliedig ar leoliadau â modelu amaethyddol er mwyn asesu a ellir cynnal deietau sy’n dderbyniol yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd mewn cyd-destunau rhanbarthol.
Mae’r tîm ymchwil yn gweithio gyda chynhyrchwyr, defnyddwyr a manwerthwyr er mwyn deall effaith cysylltiadau uniongyrchol rhwng gweithredwyr ar y llif o wybodaeth, magu ymddiriedaeth a phrynu a defnyddio bwyd.
Ein nod yw deall sut gall TG gatalyddu’r cysylltiadau hyn a chyflwyno deietau mwy iachus ac amgylcheddol gynaliadwy.
33 Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3BA