Y Gyfundrefn Farnwrol yn Japan – sy’n Canolbwyntio ar Achosion Ysgariad mewn Llysoedd Teulu
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Darlith gyda siaradwr gwadd Ms Izumi Oda (Ysgolhaig y Gyfraith ar Ymweliad â Phrifysgol Caerdydd), fel rhan o Gyfres Astudiaethau Japaneaidd. Derbyniad gwin i ddilyn yn y cyntedd am 17:00.
Crynodeb
Mae'r ddarlith hon yn gyflwyniad i'r gyfundrefn farnwrol yn Japan. Mae’n seiliedig ar brofiad Izumi Oda (Ysgolhaig y Gyfraith ar Ymweliad â Phrifysgol Caerdydd) o fod yn farnwr am dros 5 mlynedd. Mae'r ddarlith yn canolbwyntio ar rôl y llysoedd teulu yn Japan, gan drafod achosion penodol (e.e. achosion ysgaru nodweddiadol yn Japan) ac yn cymharu'r gyfundrefn farnwrol yng Nghymru a Lloegr.
Bydd y ddarlith yn cynnwys pedair rhan:
- Cyflwyniad byr i gyfundrefn gyfreithiol Japan
- Pa fath o lysoedd sydd yn Japan?
- Sut i fod yn farnwr yn Japan?
- Cyflwyniad i waith Izumi Oda yn Japan
- Amlinelliad o rôl y llysoedd teulu yn Japan
- Esbonio beth sy’n cael ei wneud yn y llysoedd teulu
- Beth yw eich barn am yr achosion hyn?
- Siarad am achosion penodol sy’n canolbwyntio ar achosion ysgariad
- Cymharu'r rhain gyda'r rhai yng Nghymru a Lloe
- Darganfod achosion diweddar yn y Goruchaf Lys yng Nghymru a Lloegr a'u cymharu ag achosion yn Japan
Bywgraffiad
Cafodd Izumi Oda ei geni yn rhaglawiaeth Gifu yn Japan a chafodd ei haddysg yng Nghyfadran y Gyfraith ym Mhrifysgol Osaka ac Ysgol y Gyfraith Prifysgol Kyoto. Ar ôl iddi basio Arholiad Cenedlaethol y Bar yn Japan, fe'i penodwyd yn brentis cyfreithiol yn 2011. Ym mis Ionawr 2013, cafodd ei phenodi yn farnwr ac fe'i penodwyd i Lys Dosbarth Sendai. Yna yn 2016, cafodd ei phenodi i gangen Yokosuka o fewn Llysoedd Teulu/Ardal Yokohama. Yn 2018, cafodd ei phenodi i Lys Teulu Yokohama ac ers mis Gorffennaf eleni, mae hi wedi bod yn Ysgolhaig y Gyfraith ar Ymweliad â Phrifysgol Caerdydd. O'i phrofiad fel barnwr am dros 5 mlynedd, mae hi wedi ymdrin â sawl math o achos gan gynnwys sifil (yn aelod o'r panel), teulu a phobl ifanc.
Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 28 Tachwedd i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.
Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS