Dialecteg Gwaith: Llafur fel Haniaeth Real, Haniaeth y Meddwl a Haniaeth yr Hollfyd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Seminar ymchwil gyda Dr Alastair Hemmens (Prifysgol Caerdydd), fel rhan o thema ymchwil Cyfalafiaeth, Argyfwng ac Ideoleg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.
Crynodeb
Bydd y papur yn ymchwilio i gategorïau athronyddol, Helegian yn bennaf, sy’n sail i theori fodern feirniadol o lafur. Yn benodol, bydd yn edrych ar y gwahanol fathau o haniaeth – rhesymegol ac afresymol, real ac yn y meddwl, cyffredin a beirniadol, yn ogystal â haniaeth yn erbyn hollfyd concrid – meddwl ac ymarfer cymdeithasol cyfryngol mewn cyfalafiaeth, wedi’i ddeall, yn y telerau hyn, fel ffurfiant cymdeithasol hanesyddol benodol yn seiliedig ar ‘lafur haniaethol’. Mae’r theori feirniadol o lafur, a chyfalafiaeth yn ei gyfanrwydd, sy’n dod o ystyried y categorïau hyn yn cael goblygiadau enfawr ar bron bob agwedd ar y dadansoddiad beirniadol o gymdeithas fodern ac, o ganlyniad, ar gyfer ymarfer cymdeithasol ryddfreiniol yn fwy cyffredinol. Bydd y papur yn ailymweld, yn benodol, â hanes gwaith deallusol a diwylliannol fel haniaeth gyffredin ers ei sefydlu yn yr unfed ganrif ar bymtheg hyd heddiw. Daw i ben trwy ddadlau bod angen i ni ailedrych yn llwyr ar sut rydym yn deall gwaith os ydym am wynebu trychineb hanes modern a’r nifer fawr o argyfyngau cymdeithasol ac economaidd rydym yn eu hwynebu.
Bywgraffiad
Mae Alastair Hemmens yn ddamcaniaethwr gwleidyddol beirniadol ac yn hanesydd deallusol o Ffrainc gyfoes. Ar ôl cwblhau PhD mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol London Institute ym Mharis yn 2014, aeth ymlaen i ymgymryd â Chymrodoriaeth ar Ddechrau Gyrfa Leverhulme ym Mhrifysgol Caerdydd, Ysgol Ieithoedd Modern, lle mae’n addysgu am ddiwylliant Ffrainc, ei hanes a’i hiaith. Ef yw awdur The Critique of Work in Modern French Thought, from Charles Fourier to Guy Debord (a gaiff ei gyhoeddi gyda Palgrave Macmillan yn 2019) ac mae wedi cyfieithu llawer o waith theori gritigol. Un o’i gyfieithiadau mwyaf nodedig yw The Writing on the Wall: On the Decomposition of Capitalism and its Critics (Zero Books, 2017) gan Anselm Jappe.
Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.ukerbyn dydd Mercher 20 Mawrth i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.
Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS