Archwilio pwysigrwydd ‘lle’ ar gyfer cynaliadwyedd yn y dyfodol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Image of ESRC Festival of Social Science logo](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1317896/ESRC-Festival-of-Social-Science-logo-2018-10-8-10-4-51-487.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Archwilio pwysigrwydd ‘lle’ ar gyfer cynaliadwyedd yn y dyfodol.
Mae ystyr ac atgofion i le. Mewn lle y byddwn ni’n rhyngweithio ag eraill ac â’r byd ffisegol a naturiol. Lle sy’n gwireddu’r cysylltiadau cymhleth rhwng amgylchedd, cymdeithas ac economi.
Yn y rhaglen dau ddiwrnod hon o arddangosfeydd a digwyddiadau rhyngweithiol, bydd Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd yn arddangos ymchwil ryngwladol ynghylch creu lleoedd cynaliadwy, ac yn tynnu sylw at enghreifftiau o waith arloesol sy’n digwydd yng Nghymru. Byddwn ni’n edrych ar sut gall deall a pharchu ymdeimlad o le gyflawni cynaliadwyedd sy’n ymgysylltu â phobl ac yn eu cyfoethogi.
Dros ddau ddiwrnod, fe fyddwn yn trafod beth gall ymchwil sy'n seiliedig ar le gyfrannu at lywio polisi gwledig ac amgylcheddol yn y cyfnod wedi Brexit, a hefyd y blaenoriaethau ar gyfer Dinas-ranbarthau, a byddwn yn archwilio sut gall deall a pharchu ymdeimlad o le ddarparu cynaliadwyedd sy’n ymgysylltu â phobl ac yn eu cyfoethogi.
Bydd y digwyddiadau o ddiddordeb i bawb sy’n ymwneud neu’n ymddiddori mewn gwaith seiliedig ar le a/neu ddatblygu cynaliadwy. Mae'r gwaith yn arbennig o berthnasol i ddeall y cyfleoedd a ddarperir yng Nghymru gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallwch ddewis mynychu sesiynau penodol neu fwynhau’r rhaglenni diwrnod llawn.
Dydd Gwener 9 Tachwedd
10.15 Agor yr arddangosfa: Cyflwyniad i Ymdeimlad o Le.
Bannau Brycheiniog:
11.00 Ffilm fer a thrafodaeth panel: Lle, hunaniaeth a thwristiaeth
14.00 Sgwrs am yr arddangosfa
15.30 Sgwrs am yr arddangosfa
Trafodaeth
18.00 Trafodaeth panel: rôl lle mewn cynaliadwyedd
Dydd Sadwrn 10 Tachwedd
10.15 Taith dywys o amgylch yr arddangosfa
11.00 Ffilm fer a thrafodaeth panel: Naratifau sy'n seiliedig ar le gan Carvalhal de Vermilhas, Vouzela, Portiwgal
Y Ddinas-ranbarth:
14.00 Sgwrs am yr arddangosfa: Prosiect y Nenlinell
15.30 Sgwrs am yr arddangosfa a mapio cyfranogol
18.00 Trafodaeth panel: Dinas-ranbarth a safbwyntiau sy’n gwrthdaro ynghylch dyfodol gwell
Market Road
Canton
Cardiff
Cardiff
CF5 1QE