Derbyniad Graddio yr Ysgol Fferylliaeth
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Graduation](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/378277/17.07.14-Cardiff-Day-5-Grad-21bw.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Mae'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol yn cynnal derbyniad a chinio i ddathlu ar ôl eich seremoni raddio ffurfiol ar 17 Gorffennaf.
Cynhelir y derbyniad yn y Deml Heddwch, drws nesaf i Adeilad Redwood, a bydd yn dechrau am 2.15pm.
Amserlen Lawn ar gyfer Graddedigion:
2.00pm Diwedd y Seremoni raddio
2.00pm Derbyniad Graddio yn y Deml Heddwch
3.30pm Cyflwyno Gwobrau'r Ysgol yn y Deml Heddwch
4.00pm Ffotograff grŵp graddedigion ar risiau Adeilad Morgannwg
7.30pm Amser olaf ar gyfer dychwelyd gynau graddio
Bydd cinio bwffe ar gael ar gyfer graddedigion a hyd at ddau westai yn y Deml Heddwch.
At hynny, bydd yr Ysgol yn agor ei drysau i raddedigion a'u gwestai i weld a mwynhau arddangosfa yn yr Ysgol, ac mae'r Ysgol yn bwriadu dangos gwe-ddarllediad byw o'r Seremoni Raddio Fferylliaeth yn narlithfa 0.21 yn Adeilad Redwood ar gyfer unrhyw aelodau teulu a gwestai nad ydynt yn gallu dod i Neuadd Dewi Sant.
Temple of Peace
Cathays Park
Caerdydd
CF10 3AP