Derbyniad Graddio’r Ysgol Cerddoriaeth
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae'r Ysgol Cerddoriaeth yn trefnu derbyniad i ddathlu graddio ei myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ddydd Mawrth 17 Gorffennaf 2018. Cynhelir y derbyniad yn Neuadd Aberdâr, gyda drysau'n agor am 5.00pm a'r digwyddiad yn dod i ben tua 7.00pm. Bydd yn gyfle gwych i raddedigion a'u teuluoedd gwrdd â'i gilydd a'r staff yn syth ar ôl y seremoni raddio. Byddwn yn gweini lluniaeth a bydd cyflwyniadau i'r graddedigion hynny y dyfarnwyd gwobrau iddynt o ddeutu 6.15pm.
Heol Corbett
Caerdydd
CF10 3UP