Derbyniad Graddio Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ar gyfer Israddedigion Nyrsio a Bydwreigiaeth
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Congratulations to the Class of 2018](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/1208590/School-of-Healthcare-Sciences-celebratory-event-2018-6-18-13-37-26-488.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Hoffai Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd estyn gwahoddiad cynnes i chi ac aelodau o'ch teulu a chyfeillion i ymuno â ni i ddathlu eich llwyddiannau, mewn pabell fawr y tu allan i'r Prif Adeilad ar ôl eich seremoni raddio.
Bydd y lluniaeth yn cynnwys canapés, cacennau bach i ddathlu, gwin pefriog a diodydd ysgafn. Hefyd, bydd stondinau bwyd a diod ychwanegol yno a memorabilia ar werth.
Sut i gadw lle
Anfonir gwahoddiadau i'r digwyddiad drwy ebost/Eventbrite cyn bo hir, lle byddwch yn cofrestru eich presenoldeb yn ffurfiol ac yn archebu tocynnau. Oherwydd cyfyngiadau capasiti'r lleoliad, cyfyngir y tocynnau i'r digwyddiad i uchafswm o ddau westai i bob unigolyn sy'n graddio.
Bydd gennym ffotograffydd i gofnodi atgofion arbennig y digwyddiad.
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT