Gweithdy PhotoVoice
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Bydd y gweithdy hwn yn arddangos ffyrdd gwahanol o ddefnyddio dull Photovoice mewn prosiectau ymchwil. Bydd y sesiwn yn dechrau gydag esboniad byr o’r dull, ei amrywiadau a rhai enghreifftiau. Yna, bydd y bobl sy’n bresennol yn cael profiad ymarferol mewn ymarfer o ddwy ran sy’n ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng gwerthoedd a lleoedd.
Gofynnir i’r rhai sy’n cymryd rhan i ddod â llun neu eitem sy’n cynrychioli lle/elfen roeddent yn gwerthfawrogi yn eu cymunedau cyn troi’n 18. Bydd y grŵp yn mynd ar daith gerdded fer o amgylch y lleoliad ac yn tynnu llun o le neu elfen sy’n berthnasol iddyn nhw nawr. Yn rhan olaf y gweithdy, byddwn yn cymharu ac yn trafod dewisiadau unigol a phatrymau grŵp.
- amser sydd ei angen: tua 2 awr
- gofynion:
- llun/item sy’n cynrychioli lle/elfen yr oedd yr unigolyn sy’n cymryd rhan yn gwerthfawrogi yn ei gymuned cyn troi’n 18,
- camera/ffôn symudol sydd â chamera
33 Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3BA