Cyffyrddiad Ieithyddol, Newid Ieithyddol a Hunaniaeth Ranbarthol: Ffrangeg a'r Wasgwyneg yn Béarn, Ffrainc. - CANSLO’
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Nodwch bod y digwyddiad hwn wedi ei ganslo oherwydd amgylchiadau annisgwyl. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.
Seminar ymchwil ar y cyd ag Ysgol y Gymraeg gyda siaradwr gwadd Dr Damien Mooney (Prifysgol Bryste), fel rhan o’r Rhaglen Seminarau Ymchwil a’r thema ymchwil Cyfieithu, Addasu a Pherfformio yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.
Crynodeb
Bydd y cyflwyniad hwn yn ymchwilio i oblygiadau cyffyrddiad iaith rhwng y Ffrangeg ac iauth frodorol, yr Wasgwyneg yn rhanbarth Béarn yng ngogledd-orllewin Ffrainc. Fe drafodir y newidiadau ieithyddol sy’n mynd rhagddynt yn yr amrywiad rhanbarthol ar y Ffrangeg a siaredir yn Béarn, er mwyn archwilio sut y gellir perfformio hunaniaeth ranbarthol yn yr iaith ddominyddol (Ffrangeg) ymhlith y cenedlaethau iau gan fod yr iaith frodorol (Gwasgwyneg) yn ddarfodedig.
Bywgraffiad
Mae gan Dr Mooney D.Phil mewn Ieithyddiaeth Gyffredinol a Ffiloleg Gymharol o Brifysgol Rhydychen, M.Phil mewn Ieithyddiaeth o Brifysgol Caergrawnt, a BA mewn Ffrangeg a Mathemateg o Goleg y Drindod Dulyn. Mae hefyd wedi astudio yn yr École Normale Supérieure ym Mharis, rue d'Ulm. Cyn ymuno â’r adran Ffrangeg ym Mryste, fe addysgodd ym Mharis III (Sorbonne Nouvelle), Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, ac ym Mhrifysgol Queen's, Belfast.
Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb ac bydd cyfieithu ar y pryd ar gael ar y dydd.
Cofrestru
Archebwch docynnau yma. Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.
John Percival Building
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU