Gweithdy Cyfieithu Japaneeg
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Japanese Translation Workshop image](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/1466412/Cover-Art-landscape.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Mae'r Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad â Kurodahan Press, yn gwahodd ceisiadau i gymryd rhan mewn gweithdy cyfieithu llenyddol Japaneeg i Saesneg ar 13-14 Ebrill, 2019. Bydd cyfieithiadau a gynhyrchir yn ystod rhaglen y gweithdy yn ymddangos mewn detholiad o ffuglen a fydd yn cael ei gyhoeddi gan Kurodahan Press.
Bydd rhaglen y gweithdy yn gyfle i ddarpar gyfieithwyr gyfieithu stori neu straeon byr i’w cyhoeddi’n fasnachol o dan oruchwyliaeth mentoriaid profiadol iawn. Bydd yr holl gyfieithwyr yn cael honorariwm, yn cael eu henwi yn y rhifynnau cyhoeddedig, a byddant yn cael un copi am ddim o fersiynau clawr meddal ac electronig o’r detholiad. Y dyddiad cyhoeddi arfaethedig ar gyfer argraffiadau Saesneg ledled y byd, mewn fformat electronig a chlawr meddal, yw mis Rhagfyr 2019.
Yn ychwanegol at yr honorariwm, rydym ni’n rhagweld gallu darparu cyfraniadau at gostau teithio a llety, er nad yw’r cyllid yn debygol o dalu’r gost lawn o deithio ar gyfer y rheiny sy’n cymryd rhan ac yn teithio o du allan i'r DU.
Bydd cyfranogwyr yn gweithio ar eu cyfieithiadau dros y chwe mis hyd at y gweithdy. Yn y gweithdy, bydd cyfranogwyr yn cael eu paru â mentoriaid a fydd yn darparu adborth manwl un i un ar y cyfieithiadau ac yn gweithio gyda'r cyfranogwyr i fireinio cyfieithiadau i safon cyhoeddi. Gall cyfieithiadau gael eu golygu ymhellach yn broffesiynol cyn eu cyhoeddi. Bydd y gweithdy hefyd yn gyfle gwerthfawr i rwydweithio â chyfieithwyr profiadol.
I weld rhestr o’r straeon byrion i’w cyfieithu yn ystod rhaglen y gweithdy, ewch i https://www.kurodahan.com/wp/e/catalog/9784909473004.html
Dylai ymgeiswyr fod yn rhugl yn y Saesneg ar lefel mamiaith, neu mor agos â phosibl i’r lefel honno, gyda hyfedredd uwch (sy'n cyfateb i ddim llai nag N2 o’r JLPT) mewn Japaneeg.
I wneud cais, anfonwch CV a llythyr byr sy'n nodi manylion eich gallu ieithyddol a’ch diddordeb mewn llenyddiaeth Japaneaidd a chyfieithu.
Dylid anfon ceisiadau at Ruselle Meade drwy meader@cardiff.ac.uk erbyn 30 Medi, 2018.
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS