Cynhadledd Rhwydwaith Astudiaethau Dilynwyr (FSN) 2018
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Siaradwyr:
Dr Mark Duffett, Darllenydd, Prifysgol Caer, DU
Yr Athro C. Lee Harrington, Prifysgol Miami, UDA
Mae ein rhwydwaith byd-eang yn parhau i dyfu, gyda chynadleddau cychwynnol wedi’u cynnal ar gyfer FSN Awstralasia yn 2017, ac FSN Gogledd America yn cynnal digwyddiad ym mis Hydref 2018. Rydym felly yn falch iawn o gyhoeddi y bydd chweched cynhadledd flynyddol Rhwydwaith Astudiaethau Dilynwyr yn cael ei chynnal yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd yn y DU. Gan gynnig rhaglen amrywiol dros gyfnod o ddau ddiwrnod yn ystod mis Mehefin 2018, bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal mewn dinas sydd eisoes yn adnabyddus fel cyrchfan ar gyfer cefnogwyr rhaglenni teledu megis Doctor Who, Torchwood a Sherlock. Bydd y gynhadledd yn parhau traddodiad hir-sefydlog FSN o gynnig man brwdfrydig ar gyfer ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol ar bob cyfnod o’u gyrfa er mwyn cysylltu, rhannu adnoddau, a datblygu eu syniadau ymchwil ymhellach. Yn ogystal â chyflwyniadau gan banel, bydd y ddau ddiwrnod yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol, trafodaethau mewn gweithdai, a’n sesiynau speed-geeking enwog.
Rydym yn falch iawn o groesawu Dr Mark Duffett a’r Athro C. Lee Harrington fel ein prif siaradwyr. Mark yw awdur o Understanding Fandom (Bloomsbury, 2013) ac Elvis Presley (Gwasg Equinox, 2017) a golygydd Popular Music Fandom (Routledge, 2014) a Fan Identities and Practices in Context (Routledge, 2016). C. Lee Harrington, gyda Denise D. Bielby, yw awdur Soap Fans: Pursuing Pleasure and Making Meaning in Everyday Life (Gwasg Prifysgol Temple, 1995) a Global TV: Exporting Television and Culture in the World Market (Gwasg Prifysgol Efrog Newydd, 2008). Mae hi hefyd wedi cyd-olygu sawl cyfrol ar ddiwylliant poblogaidd, astudiaethau cefnogwyr, opera sebon, a heneiddio a’r cyfryngau. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael y ddau ohonynt yn brif siaradwyr yn FSN2018.
Anfonwch unrhyw ymholiadau at: fsnconference@gmail.com
Gallwch ymuno â thrafodaeth am y digwyddiad ar Twitter gan ddefnyddio #FSN2018, dilynwch @FanStudies neu ymweld â http://www.fanstudies.org.
Bute Building
Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NB