Sesiwn Hysbysu Dros Frecwast Addysg Weithredol - Y Saith Mawr
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae Google, Facebook, Amazon, Microsoft, Baidu, Alibaba a Tencent yn arweinyddion arloesi. Mae’n debyg y gall eu rôl wrth lansio’r oes AI aflonyddu’r diwydiant gwasanaethau ariannol cyfan, ac yn enwedig y sector yswiriant. I’r busnesau traddodiadol, gall y dyfodiad hwn cael ei weld yn fygythiad neu’n gyfle.
Yn ystod ein hail Sesiwn dros Frecwast eleni, bydd Darrell Mann yn archwilio dwy ochr y stori, a cheisio rhagfynegi sut y bydd y stori yn datblygi dros y degawd nesa’ gan gynnig ychydig syniadau ar sut gall y rhai bach ennill y dydd yn erbyn y cewri.
Mae gan Darrell Mann 25ain o brofiad ym myd arloesi. Yn ogystal ag arloesiad, mae e'n arbenigo rheolaeth newidiadau, mewnwelediadau, strategaeth, mentora ac ail-ddiffinio rheolau ffiseg.
Os hoffech ddarllen mwy amdano, cysylltwch â'i dudalen LinkedIn, neu darllenwch ei Blog: www.darrellmann.com
Mae’n bleser gennym eich gwahodd i’r Sesiwn Hysbysu Dros Frecwast nesaf yn Ysgol Fusnes Caerdydd, Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion, Colum Drive, Caerdydd, CF10 3EU.
Mae'r achlysur hwn yn rhan o gyfres Hysbysu dros Frecwast Ysgol Fusnes Caerdydd, rhwydwaith sy'n galluogi ein cysylltiadau busnes ddarganfod mwy o wybodaeth am yr ymchwil diweddara', a datblygiadau allweddol ein partneriaid diwydiannol. Rydym yn gobeithio y gallwch ymuno â ni ar gyfer sgwrs a thrafodaeth gyffrous, dros croissant a phaned.
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU