Diwrnod Rhyngwladol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Bydd y ffair ac arddangosfa undydd hwn, sydd YN RHAD AC AM DDIM, yn cynnig amrywiaeth o sesiynau ar gyfer pobl ifanc blwyddyn 5 a 6, gan gynnwys dawns a sesiynau blasu Almaeneg a Mandarin. Dewch i brofi ieithoedd a diwylliannau yn ein Diwrnod Rhyngwladol, a gweld sut y gall siarad iaith arall eich galluogi i ehangu eich gorwelion!
Rhaglen
- 9.30-10.15 Cofrestru [Darlithfa 4]
- 10.15-10.30 Croeso
- 10.30-11.15 Sesiwn 1
- 11.30-12.15 Sesiwn 2
- 12.15-12.45 Cinio [Darlithfa 4]
- 12.45-13.45 Sesiwn 3
- 13.45-14.00 Diwedd [Darlithfa 4]
Sesiynau
- Sesiwn Blasu Almaeneg, gan Goethe Institut. [Darlithfa 5]
- Sesiwn Blasu Tsieinëeg Mandarin, gan Sefydliad Confucius. [Darlithfa 3]
- Dawns Tsieineaidd, gan Sefydliad Confucius. [Darlithfa 2]
Telerau ac Amodau- Mae llefydd yn brin ac felly fe"u dyrennir ar sail y cyntaf i’r felin. Hefyd ar gyfer y gweithdai. Uchafswm o 30 disgybl o bob ysgol.
O’r herwydd, gofynnir i chi"n hysbysu o unrhyw newidiadau i"r niferoedd, a hynny o leiaf ddeng niwrnod gwaith cyn y digwyddiad ei hun.
Fe gaiff lluniau eu tynnu drwy gydol y digwyddiad i’w defnyddio at ddibenion hyrwyddo. Gwnewch yn sicr eich bod wedi cael caniatâd priodol gan rieni. Rhowch wybod i ni ar ddechrau’r diwrnod os nad ydych yn dymuno inni dynnu llun ohonoch.
Dydy’r bwyd ddim yn cael ei gynnwys. Plîs, wnewch chi ddod â brechdanau o adref.
Cofrestrwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/international-day-tickets-47015030221
Cysylltiad: Rubén Chapela-Orri, r.chapela@bangor.ac.uk.
Ffordd y Coleg
Gwynedd
LL57 2DG