Ffair Wybodaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Ymunwch â ni yn ein Ffair Wybodaeth, a gynlluniwyd i roi gwybodaeth hanfodol i fyfyrwyr israddedig newydd.
Rhagor o wybodaeth ynghylch:
- Gwasanaethau Cefnogi - beth sy’n cael ei gynnig a sut i gael gafael ar wasanaethau
- Cyfleoedd ychwanegol - dysgu iaith yn rhad ac am ddim, gwybodaeth am yrfaoedd a mentrau cyflogadwyedd, cael gwybod am wirfoddoli yn ogystal â lleoliadau gwaith ac ymchwil
- Gwybodaeth hanfodol - gan gynnwys gwasanaethau llyfrgell, TG, ailgylchu, atal troseddau a chyngor ynghylch diogelwch
Gallwch hefyd ddefnyddio bwth tynnu lluniau LinkedIn i gael llun proffil rhad ac am ddim a rhoi cynnig ar ein raffl.
Dyma eich cyfle delfrydol i gwrdd â myfyrwyr eraill a bydd staff wrth law hefyd i ateb eich cwestiynau a’ch cyfeirio at wasanaethau pellach.
Sgyrsiau defnyddiol
Ewch i amrywiaeth o sgyrsiau i gael gwybod am y gwasanaethau sydd ar gael drwy Undeb y Myfyrwyr, y gefnogaeth a ddarperir yn ystod eich cyfnod yn byw mewn preswylfeydd Prifysgol, cyllidebu a chyllido, a sut i ddechrau cynllunio ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Bydd sesiwn galw heibio hefyd i gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr ag anableddau.
Bydd pob sgwrs yn cael ei chynnal yn Adeilad Syr Martin Evans, Rhodfa’r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX yn narlithfa C/-1.04, sydd ar y llawr gwaelod isaf.
Sesiwn y bore* | Sesiwn y Prynhawn* | |
---|---|---|
Undeb y Myfyrwyr | 11:10 – 11:25 | 14:40 – 14:55 |
Bywyd Preswyl | 11:30 – 11:45 | 15:00 – 15:15 |
Cyllidebu i Fyfyrwyr | 11:50 – 12:05 | 15:20 – 15:35 |
Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd | 12:10 – 12:30 | 15:40 – 16:00 |
Sesiwn Galw Heibio Anabledd a Dyslecsia | 12:35 – 13:20 |
*Gweler amserlen ymsefydlu eich Ysgol Gartref i weld yr amser a bennwyd i chi ar gyfer eich sesiwn.
Peidiwch â cholli’r cyfle perffaith i gael gwybod am yr ystod eang o wasanaethau cefnogi a chyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd!
Temple of Peace
Cathays Park
Caerdydd
CF10 3AP