Noson Gyda Morfydd Owen
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Morfydd Owen](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/1259915/Morfydd-Owen-2018-8-21-11-34-55-122.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Bydd Rhian Davies yn edrych ar fywyd a gwaith Morfydd Owen drwy’r archif a gedwir yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd, Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol.
Roedd Morfydd Owen yn gerddor a chyfansoddwraig eithriadol o ddawnus. Rhian Davies sy’n taro golwg dros ei bywyd anhygoel, gan ddefnyddio lluniau a cherddoriaeth wedi’i ysbrydoli gan Gasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd.
Bydd arddangosfa fechan o ddogfennau, cyfansoddiadau ac eitemau personol Morfydd i’w gweld yn ystod y digwyddiad. Sgwrs iaith Saesneg.
Am y siaradwraig
Mae Dr Rhian Davies yn arbenigo mewn darganfod deunyddiau arbennig mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat: yn sgil ei hymchwil, mae nifer o ffigyrau anghofiedig o fyd cerdd Cymru wedi derbyn cydnabyddiaeth ehangach.
Fel Cyfarwyddwraig Artistig Gwyl Gregynog – gwyl gerdd glasurol hynaf Cymru – mae Dr Davies cyd-weithio gyda cherddorion blaengar i greu’r unig wyl gerdd Gymreig i gael ei chydnabod gan y Réseau Européen do Musique Ancienne yn Versailles.
Mae Dr Davies wedi bod yn hanesydd cerdd ers 1989, a’i diddordebau pennaf yw diwylliant Prydain ar dro’r ugeinfed ganrif; cerddorion a chyfansoddwyr benywaidd a’r Rhyfel Mawr.
Cydnabyddwyd ei chyfraniad at gerddoriaeth yng Nghymru yng nNwobrau Ysbrydoli Cymru, y Wales Arts Power List, a Gorsedd Beirdd Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Rhodfa Colum
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU