Iechyd Digidol yng Nghymru
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Mae Cymru yn manteisio ar dechnolegau digidol i greu system gofal iechyd mwy effeithlon, sy'n canolbwyntio ar gleifion, ac sy'n barod i gwrdd â heriau'r dyfodol a chroesawu datblygiadau arloesol.
O fapio esblygiad genetig pandemig COVID-19 i rymuso cleifion gydag apiau a dyfeisiau y gellir eu gwisgo, mae trawsnewid digidol yn chwyldroi'r ffordd rydyn ni'n meddwl am ein hiechyd.
Mae trawsnewid digidol ym maes gofal iechyd yn dibynnu ar bobl i dderbyn a mabwysiadu'r ffyrdd newydd hyn o weithio.
Ar 15 Mai, mae Rhwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd yn cynnal digwyddiad ar y cyd â Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol Prifysgol Caerdydd a Medicentre Caerdydd, a fydd yn trin a thrafod potensial trawsnewidiol technolegau iechyd digidol.
Bydd siaradwyr diddorol yno, gan gynnwys
- Y Sefydliad Arloesi er Trawsnewid Digidol, Prifysgol Caerdydd
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Cwmni Siemens Healthineers
- Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI)
- Healthy IO
- Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
… gyda llawer mwy i'w cadarnhau.
Pam ddylech chi fynd i’r digwyddiad?
- Cael gwybodaeth am y tueddiadau a'r datblygiadau diweddaraf ym maes gofal iechyd digidol.
- Rhwydweithio a meithrin cysylltiadau gwerthfawr
- Cael cyfleoedd newydd i gydweithredu ac arloesi.
Cofrestrwch nawr i gadw eich lle - Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i fod yn rhan o’r sgwrs sy’n llunio dyfodol iechyd a gofal yng Nghymru.
Agenda lawn i'w gadarnhau:
9am-9.30am – Cofrestru a rhwydweithio
9.30am-11:10am – Cyflwyniadau
11.10am – 11.30am – Egwyl
11.30am – 12.30pm - Cyflwyniadau
12.30pm –1pm Panel Holi ac Ateb
1pm-2pm – Cinio a rhwydweithio
2pm- Gorffen
Cardiff Medicentre
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4UJ