Ewch i’r prif gynnwys

Arddangosfa Pen-blwydd Cyfrifon Cyflymu Effaith Prifysgol Caerdydd yn 10 mlwydd oed

Dydd Mawrth, 20 Mai 2025
Calendar 09:00-18:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Bute Building on a sunny day with people standing outside.

Ers 2015, mae Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau dros £13 miliwn o gyllid drwy’r Cyfrif Cyflymu Effaith gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI). Mae ein set bresennol o Gyfrifon Cyflymu Effaith wedi’u cyfuno’n cwmpasu cyllid gwerth £6.2 miliwn gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) a'r Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC). 

Hyd yn hyn, mae dros 450 o brosiectau effaith wedi’u cefnogi gan y Cyfrif Cyflymu Effaith gan UKRI, ac mae dros 500 o bartneriaethau wedi’u creu gyda phartneriaid a chymunedau anacademaidd. 

I nodi a dathlu degawd o’n Cyfrif Cyflymu Effaith gan UKRI, mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal Digwyddiad Arddangos ar 20 Mai 2025 rhwng 09:00 a 18:00. Bydd y digwyddiad, a gynhelir yn Adeilad Bute, yn cynnwys cyflwyniadau panel gan ddeiliaid Cyfrif Cyflymu Effaith, trafodaethau a sesiynau grŵp. Bydd hefyd yn cynnwys y Gwobrau Dathlu Effaith, sy’n cydnabod y cyfraniad eithriadol y mae ein hymchwilwyr a’u partneriaid wedi’i wneud. 

Bydd lluniaeth a bwyd ar gael drwy gydol y dydd, a bydd modd mwynhau cerddoriaeth fyw o 5pm gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. 
 
I ymuno, cofrestrwch trwy Eventbrite.
 
Rydyn ni hefyd yn annog staff i naill ai enwebu eu hunain neu enwebu cydweithiwr sy'n haeddu cael ei gydnabod yn y 'Gwobrau Dathlu Effaith'. I wneud hynny, darllenwch y Canllawiau ar gyfer Gwneud Cais yn ofalus, a llenwch Ffurflen Gais y Gwobrau Dathlu Effaith. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw 16:00 ar 18 Ebrill 2025.
 
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, e-bostiwch impact-engagement@caerdydd.ac.uk. 

Adeilad Bute
Prifysgol Caerdydd
Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NB

Rhannwch y digwyddiad hwn