Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu meddyginiaethau'r dyfodol

Dydd Mawrth, 10 Mehefin 2025
Calendar 17:15-18:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Image:  Developing medicines of the future

Mae Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau (MDI) Prifysgol Caerdydd yn trosi ymchwil arloesol o bob rhan o’r sefydliad yn driniaethau newydd, gyda ffocws ar anhwylderau’r system nerfol ganolog, megis iselder a dementia yn ogystal â chanserau a chyflyrau imiwnolegol.

Bydd yr Athro John Atack, Cyfarwyddwr MDI a Loren Waters MRes 2021, BSc 2020, Cynorthwyydd Ymchwil yn esbonio'r daith o ddarganfod i ddatblygiad trwy dreialon clinigol a chymwysiadau byd go iawn.

Clywch sut mae'r Sefydliad yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr darganfod cyffuriau ac yn cydweithio â diwydiant i fynd â meddyginiaethau blaengar o fainc y labordy i'r claf.

Rhannwch y digwyddiad hwn