Ensemble Jazz Prifysgol Caerdydd
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Mae Tori Freestone, cerddor o fri sy’n chwarae sawl offeryn, yn wyneb cyfarwydd mewn nifer o grwpiau ensemble bywiog ledled y Deyrnas Unedig. Mae hi’n cyd-arwain deuawd gyda’r pianydd Alcyona Mick, ac yn arwain ei thriawd ei hun lle mae wedi rhyddhau sawl darn yn ei henw. Mae hi wedi derbyn y wobr Ivor Novello am gyfansoddi Ensemble Jazz yn 2022 ar gyfer ‘Birds of Paradise' sy'n ymddangos ar y ddeuawd ddiweddaraf y cafodd ei rhyddhau gan Tori Freestone/Alcyona Mick 'Make One Little Room an Everywhere' a chafodd y darn diweddaraf i’w ryddhau gan ei thriawd 'El Mar de Nubes' ei enwi yn albwm Jazz y mis yn y Guardian yn 2019. Cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Cyfansoddi Jazz 2017 gan Sefydliad y Celfyddydau a’r Wobr Jazz Seneddol ar gyfer cerddor jazz y flwyddyn 2017. Mae hi hefyd wedi derbyn cyllid gan y Gymdeithas Hawliau Perfformio (PRS) a gwobr Do it Differently gan Help Musicians a’r gronfa Transmission yn 2020 i gyfansoddi ac i recordio miwsig ar gyfer ei deuawd ac ar gyfer prosiect cyfansoddi ensemble mawr.
A hithau’n addysgwr mae hi wedi cynnal gweithdai ar gyfer Coleg Cerdd Cymru, Conservatoire Birmingham, Conservatoire Leeds, Prifysgol Kingston, Prifysgol Falmouth a Choleg Truro, ac wedi darlithio yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Ysgol Cerdd a Drama Guildhall, Prifysgol Middlesex a Trinity Laban. Ar hyn o bryd mae hi'n Athro ym maes Perfformio a Chyfansoddi Jazz yn Conservatoire Leeds, ac yn ddarlithydd gwadd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae hi hefyd yn diwtor ac yn cynnal gweithdai ar gyfer y National Youth Jazz Collective ac ysgolion haf ochr yn ochr â rhai o gerddorion gorau y DU, gan gynnwys Dave Holland, Norma Winstone a Nikki lles.
Mae Tori yn artist Borgani (yr Eidal).
"Freestone has clearly listened widely, but her musicality and broad experiences have stirred all that input into an imposingly original sound", Adolygiad 4* gan John Fordham, The Guardian.
“a flute and reeds player of nicely sinuous melodic invention” – The Telegraph
"I really dig her; she’s so organic..She sounds very relaxed, but she’s got a real burn to her playing on the tenor saxophone...my ears never get tired", gan Ingrid Jensen, 'Artist Choice' Article Jazz Times, UDA
“Freestone has caused a stir far beyond the UK…” Adolygiad gan Ŵyl Jazz Leibnitz, Awstria
Music Building
31 Heol Corbett
Cathays
Caerdydd
CF10 3EB