Ewch i’r prif gynnwys

Sgwrs am lyfr: Global Hong Kong: Post-2019 Migration and the New Hong Kong Diaspora

Dydd Iau, 12 Mehefin 2025
Calendar 14:00-15:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Book Talk Poster

Amcangyfrifir bod dros 200,000 o drigolion Hong Kong wedi ymfudo i wahanol wledydd ers 2019. Mae'r llyfr hwn sydd newydd ei gyhoeddi – Global Hong Kong: Post-2019 Migration and the New Hong Kong Diaspora (wedi’i olygu gan Yuk Wah Chan ac Yvette To) – yn trin a thrafod sut mae ymfudwyr Hong Kong yn y DU, Canada, Awstralia a Taiwan yn newid eu hunaniaeth, yn ymgartrefu ac yn rheoli bywyd teuluol. Mae’n adeiladu ar y cysyniad o ‘Hong Kong fyd-eang’ ac yn datgelu sut mae ymfudwyr Hong Kong wedi ffurfio cymunedau deinamig dramor wedi’u cefnogi gan rwydweithiau lleol a thrawswladol, sydd wedi arwain at ddatblygiad cymunedau unigryw o bobl o Hong Kong yn y gwledydd hynny. Bydd y seminar hon hefyd yn amlygu rôl arwyddocaol gwleidyddiaeth wrth lywio polisïau mudo.

Bywgraffiad y siaradwr: Mae'r Athro Yvette To yn Athro Cynorthwyol yn Adran y Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol ym Mhrifysgol Bolytechnig Hong Kong.  Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar foderneiddio Tsieina ac effeithiau hyn ar gysylltiadau Tsieina â gwledydd eraill. Mae'n defnyddio dull economi wleidyddol i ddeall sut mae sefydliadau, buddiannau a grym yn dylanwadu ar bolisïau a'u canlyniadau. Mae'r Athro To hefyd yn ymchwilio i fudo, yn arbennig sut mae cyfryngwyr yn dylanwadu ar batrymau mudo a sut mae rhwydweithiau cymdeithasol yn effeithio ar ble mae ymfudwyr yn ymgartrefu. Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn cyfnodolion rhyngwladol enwog, gan gynnwys New Political Economy ac American Behavioral Scientist. Mae’n mynd ati i wneud sylwadau ar faterion sy’n ymwneud â Hong Kong a Tsieina. Cyfrannodd ddarnau barn i South China Morning Post, a chafodd ei chyfweld gan CNN, The Straits Times a South China Morning Post ar bynciau sy'n ymwneud â datblygiad technolegol Tsieina.

Bydd yr Athro Michaela Benson, Athro mewn Cymdeithaseg Gyhoeddus ym Mhrifysgol Caerhirfryn ac awdur pennod y llyfr "Global Britain: The Coloniality of Migration and the Hong Kong BN(O) Visa", hefyd yn bresennol yn y sgwrs i ateb cwestiynau gan y gynulleidfa.

Mae’r digwyddiad hwn wedi’i drefnu ar y cyd â Darllen Nomad C.B.C.. Mae’n gymuned ddarllen yn y DU sy’n cynnwys pobl o Hong Kong, ac mae’n ceisio hyrwyddo darllen a mathau eraill o weithgareddau diwylliannol.