Ewch i’r prif gynnwys

Deall Tsieina’n Well: Tsieina - Addysg y DU: System, Heriau a Diwygio

Dydd Llun, 24 Mawrth 2025
Calendar 18:45-19:15

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

China UK Education

Cyflwyniad gan y tiwtor Yangyang Cheng

Bydd y ddarlith hon yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o system addysg Tsieina o addysg gynradd hyd at addysg uwch, gan ganolbwyntio ar ei strwythur, yr heriau a diwygiadau parhaus. 

Mae pynciau allweddol yn cynnwys:

Trosolwg o System Addysg Tsieina – Dadansoddiad o gamau addysg, gan gynnwys addysg gynradd, addysg uwchradd, addysg alwedigaethol ac addysg uwch

Gaokao: Arholiad Mynediad Coleg Cenedlaethol Tsieina – Sut mae'n llywio llwybrau academaidd myfyrwyr a sut mae'n wahanol i brosesau derbyn myfyrwyr prifysgolion mewn gwledydd eraill

Dylanwadau Diwylliannol ar Ddysgu – Sut mae traddodiadau Conffiwsaidd yn llywio blaenoriaethau addysgol a sut mae hyn yn wahanol i ddulliau’r Gorllewin

Diwygio Addysg yn Tsieina – Newidiadau polisi diweddar megis y polisi ‘Lleihad Dwbl’, newidiadau yn y cwricwlwm, ac ymdrechion i wella arloesedd a gallu myfyrwyr i feddwl yn feirniadol.