Ewch i’r prif gynnwys

What Made Florida so Weird? An Eighteenth-Century History

Dydd Mercher, 19 Mawrth 2025
Calendar 19:00-20:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Four Florodas

Pan rwy’n gofyn i fyfyrwyr a ydyn nhw wedi teithio i'r Unol Daleithiau, mae eu hatebion fel arfer yn cyfeirio at ddwy dalaith: Efrog Newydd a Florida. Mae Florida, sy'n enwog heddiw am Disney World a straeon newyddion lleol brawychus am aligatoriaid, yn lle rhyfedd. Mae'r cyflwyniad hwn yn edrych ar fapiau modern cynnar o Florida i drafod rhai o'r rhesymau pam y daeth hi fel hyn.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, galwodd y Sbaenwyr hi’n La Florida. Tynnon nhw lun ohoni’n gyfandir o afonydd ac yn llwybr byr i'r Môr Tawel. Erbyn y 1730au, ceisiodd gwladychwyr o Loegr yn Georgia ddod o hyd i le iddyn nhw eu hunain ar arfordir yr Iwerydd gyda chaniatâd arweinwyr y Yamacraw. Y presenoldeb Sbaenaidd parhaus yn La Florida yw’r rheswm pam mae mapiau Saesnig o wladfa Georgia yn lleoli St Augustine cymaint ymhellach i'r de nag yr oedd mewn gwirionedd.

Erbyn y 1760au, pan ildiodd cytundeb Ewropeaidd Florida i Brydain, a arweiniodd at ei rhannu'n ddwy Florida gyda phorthladdoedd yr Iwerydd a'r Gwlff, daeth mapiau o Florida yn fwy rhyfedd. Roedd mwy o afonydd, llynnoedd a chorsydd mewndirol, ac ynysoedd, ar fapiau o Ddwyrain a Gorllewin Florida. Mewn gwirionedd, roedd Florida yn famwlad i’r Creek a’r Seminole, wedi'i phoblogi gan bobl frodorol a heriodd y ffiniau ar y mapiau a gafodd eu creu gan swyddogion Prydain, yna Sbaen, ac yna America. Roedd mapiau’n adnoddau ymerodrol a oedd yn caniatáu i bobl anfrodorol hawlio tir a dŵr ond a fethodd yn gyson hefyd ag adlewyrchu’r realiti go iawn ar y ddaear. Helpodd y dasg gymhleth o ddisgrifio ym mhle oedd Florida, pa genhedloedd wnaeth ei hawlio, a phwy oedd yn byw yno, ei gwneud yn rhyfedd iawn.

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Exploring the Past lecture series