Pensaernïaeth Lenyddol: O 1500 hyd heddiw
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Nod y gynhadledd ryngddisgyblaethol hon yw mynd i’r afael â’r cysylltiadau amlochrog rhwng pensaernïaeth a llenyddiaeth mewn amrywiaeth o gyfnodau a diwylliannau hanesyddol.
Boed yn astudiaethau achos â ffocws neu’n arolygon ehangach sy’n croesi amser a gofod, byddwn ni’n eu croesawu. Byddwn ni hefyd yn croesawu cyfraniadau gan ymarferwyr sy’n ymwneud â’r pynciau hyn.
- astudiaethau llenyddol
- pensaernïaeth/hanes pensaernïol
- celf/hanes celf
- astudiaethau theatr
- dylunio/hanes dylunio
- astudiaethau treftadaeth a chadwraeth
Gall pynciau a chwestiynau gynnwys:
- geiriau a phensaernïaeth: mannau ysgrifennu
- awduron yn benseiri; penseiri yn awduron
- safleoedd llenyddol a’u dehongliad
- tai dychmygol
- cymunedau a hunaniaethau wedi’u creu
- cadwraeth a ‘gwella’
- mannau ar gyfer darllen a pherfformio
- cysyniadau cyffredinol (gwreiddioldeb, adfywiad, symbolaeth, ysbrydoliaeth, hunaniaeth grŵp, mynegiant ysbrydol)
- yr amgylchedd ac ecofeirniadaeth
- effaith yr amgylchedd adeiledig ar ffurf a mynegiant llenyddol
- ysgrifennu ac adeiladu yn rhan o dechnolegau newydd (realiti artiffisial, realiti rhithwir, gemau)
- arferion a chymunedau newydd
Bute Building
Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NB