Mae cyfieithu ac ieithoedd yn bwysig! Lleisiau academaidd mewn undod ag Ieithoedd Modern
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Mae'r digwyddiad hwn wedi'i drefnu i dynnu sylw at bwysigrwydd cyfieithu ac ieithoedd mewn ymchwil a chymdeithas, yn rhan o thema ymchwil GLAS ac mewn ymateb i gynigion diweddar Prifysgol Caerdydd. Bydd yn dwyn ynghyd grŵp dethol o ymchwilwyr ac ysgolheigion Astudiaethau Cyfieithu o brifysgolion Caerdydd, Leeds a Bryste – nod y digwyddiad yw adleisio eu profiadau a'u lleisiau.
Mae Neil Sadler yn Athro Cyswllt Astudiaethau Cyfieithu yng Nghanolfan Astudiaethau Cyfieithu, Cyfieithu ar y Pryd a Lleoleiddio ym Mhrifysgol Leeds. Mae ei fonograff, Fragmented Narrative: Telling and interpreting stories in the Twitter age (2021), yn trin a thrafod sut mae llawer o straeon heddiw yn cael eu rhannu’n ddarnau llai digyswllt a sut mae hyn yn effeithio ar greu a deall straeon. Mae ei gyhoeddiadau blaenorol yn cynnwys erthyglau yn The Translator, Encounters in translation, Translation Studies, New Media & Society, Disaster Prevention and Management a hefyd The Journal of North African Studies. Ar hyn o bryd, mae'n gyd-ymchwilydd ar brosiect a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), sef (Mis)translating Deceit: Disinformation as a translingual, discursive dynamic, sy’n ymchwilio i ddimensiynau amlieithog arferion twyllwybodaeth cyfoes.
Mae Carol O'Sullivan yn Athro Cyswllt Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Bryste, lle mae'n addysgu modiwlau graddedig ac israddedig uwch ar theori cyfieithu, is-deitlo a chyfieithu o’r Eidaleg i'r Saesneg. Mae wedi cyhoeddi'n eang ar gyfieithu clyweledol, hanes cyfieithu, cyfieithu llenyddol a chynrychioliadau a chanfyddiadau cyhoeddus o gyfieithu. Mae ei llyfrau’n cynnwys Translating Popular Film (2011) a The Translation of Films 1900-1950 (2019, wedi'i olygu ar y cyd â Jean-François Cornu). Hi yw Prif Ymchwilydd prosiect Rhwydwaith Cynulleidfaoedd Is-deitlo’r DU a ariennir gan Gyngor Ymchwil Celfyddydau a Dyniaethau’r DU (2024-25).
Mae Cristina Marinetti yn Ddarllenydd Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Gyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig. Hi yw cyd-olygydd Translation in the Performing Arts: Embodiment, Materiality, and Inclusion (Routledge, 2025), ac mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar theori cyfieithu mewn perthynas â hunaniaeth a pherfformiad, hanes cyfieithu a derbyn drama a'r rhyngwyneb rhwng theori ac ymarfer cyfieithu. Mae ei hymchwil gyfredol yn canolbwyntio’n arbennig ar Fenis gyfoes, dinas sydd wedi'i llywio gan y tensiynau rhwng twristiaeth fyd-eang, nwyddháu diwylliannol a bygythiadau i oroesiad ei chymuned leol. Mae Cristina yn chwarae rhan weithredol yn y gymuned gyfieithu. Hi yw Cadeirydd y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Cyfieithu ac Astudiaethau Rhyng-ddiwylliannol (IATIS).
Mae Firial Benamer yn fyfyrwraig PhD yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar brofiadau dysgu iaith myfyrwyr o gymunedau ethnig leiafrifol a/neu'r rheini sydd â Saesneg yn iaith ychwanegol, yng nghyd-destun cwricwlwm newydd Cymru. Y nod yw gwella addysg iaith. Mae gan Firial radd BA Astudiaethau Crefyddol ac Eidaleg a gradd MA Astudiaethau Cyfieithu, y ddwy o Brifysgol Caerdydd. Yn ogystal, mae'n gysylltiedig â Phrosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern, menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Mae'r prosiect yn cefnogi’r cwricwlwm newydd i Gymru drwy hybu dysgu iaith ac amlieithrwydd.
Mae Judy Murray yn fyfyrwraig PhD yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi'n ymchwilio i gyfieithu ar y pryd ym maes gofal iechyd yn Ne Cymru. Mae Judy wedi bod yn llawfeddyg orthopedig ymgynghorol am 35 mlynedd, mae ganddi ddiddordeb gydol oes mewn ieithoedd a arweiniodd at BA ac MA Cyfieithu (Sbaeneg ac Almaeneg) ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae hi bellach ar lwybr doethurol a ariennir gan ESRC. Mae ganddi brofiad o gyfieithu i elusennau, gweithio gyda chyfieithwyr ar y pryd mewn clinigau a thribiwnlysoedd apêl meddygol, ac yn gyfieithydd ar y pryd gwirfoddol yn ei hysbyty. Ei nod yw annog cyfathrebu strategol rhwng y sector gofal iechyd a chyfieithwyr ar y pryd a chynhyrchu dogfen bolisi cyfieithu ar y pryd ar gyfer Cymru.
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS