Datgloi Gwerth: Trosoledd Asedau Sector Cyhoeddus i Sicrhau Cynaliadwyedd
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Ymunwch ag Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru (TrC), Owain Taylor-Shaw, Pennaeth Datblygu Busnes TrC ffeibr, a’r Athro Max Munday, Cyfarwyddwr Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Busnes Caerdydd, wrth iddynt archwilio sut y gall buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus ystyried cyfleoedd masnachol i helpu i sicrhau cynaliadwyedd ariannol hirdymor ac i sicrhau effaith gymdeithasol hefyd.
Bydd y drafodaeth ddeinamig hon yn ymchwilio i ddull Trafnidiaeth Cymru o gynhyrchu ffrydiau incwm newydd drwy ei asedau sector cyhoeddus presennol - gan leihau ei ddibyniaeth ar gymhorthdal y llywodraeth wrth ail-fuddsoddi refeniw a gynhyrchir ym mhrofiad cwsmeriaid a gwelliannau gweithredol. Astudiaeth achos allweddol y byddwn yn cyfeirio ati yn ystod y sesiwn hon yw ffeibr, un o is-gwmnïau TrC. Crëwyd ffeibr gyda menter arloesol yn greiddiol iddi, sef ailbwrpasu’r cynhwysedd ffibr optig gormodol ar hyd Metro TrC. Mae hyn nid yn unig yn hybu cysylltedd digidol ar draws y rhanbarth ond hefyd yn denu mewnfuddsoddiad o ganolfannau data a busnesau a yrrir gan AI, gan ddatgloi buddion economaidd-gymdeithasol sylweddol i Gymru.
Darganfyddwch sut y gall arloesi, creadigrwydd, a rheoli asedau strategol ail-lunio dyfodol mentrau sector cyhoeddus.
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU