Ymlaen â’r ffasiwn: cynaliadwyedd a moeseg mewn rheoli cadwyn gyflenwi
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Mae'r diwydiant ffasiwn yn enwog am ei effaith amgylcheddol a chymdeithasol, ac mae angen newidiadau mawr i'w wneud yn fwy cynaliadwy.
Ymunwch â Dr Hakan Karaosman, Uwch Ddarlithydd ac arbenigwr mewn cynaliadwyedd ffasiwn, a Amy Boote, myfyriwr doethuriaeth (BSc 2021, MSc 2024) i glywed sut y gellir trawsnewid strategaethau cadwyn gyflenwi i fynd i’r afael â newid hinsawdd mewn ffordd deg a chymdeithasol gyfiawn.
Gan dynnu ar brofiadau gweithwyr a chyflenwyr, byddant yn trafod eu hymchwil, gan rannu mewnwelediadau i hawliau llafur, cyfiawnder cymdeithasol, a gweithredu hinsawdd - gan gynnig persbectif newydd ar sut y gallwn greu diwydiant ffasiwn sy'n canolbwyntio ar bobl.