Digwyddiad Lansio Cyfres Seminarau Prifysgol Cape Coast-Caerdydd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Ar gyfer y seminar ar-lein hon mae'n bleser gennym groesawu Dr. Isaac Nunoo (UCC) a Dr. Gavin Murray Miller (Caerdydd) i rannu a thrafod eu hymchwil. Mae papur Dr. Nunoo, "Balance of Power, Alliance Formation and Diplomacy in Pre/Colonial Africa: Decoupling IR from Eurocentrism and Americanism" yn gwahodd ystyried dewisiadau amgen i oruchafiaeth fframweithiau Eurocentric ac Americanaidd ar gyfer astudio Cysylltiadau Rhyngwladol, tra bod papur Dr. Miller, "Toward a Gothic Historiography: On Memory, Cultural Heritage and and De-Colonized Pasts," yn archwilio presennol a dyfodol naratifau dad-drefedigaethol mewn cof a diwylliant cyhoeddus. Bydd y seminar yn cael ei chyflwyno gan yr Athro Ambreena Manji ac yn cael ei gadeirio gan Dr Mario Nisbett, Canolfan Astudiaethau Affricanaidd a Rhyngwladol, UCC.
Teitl y Papur: Cydbwysedd Grym, Ffurfio Cynghreiriau a Diplomyddiaeth yn yr Affrica Gyn-Wladychol a Gwladychol: Dadgyplu Cysylltiadau Rhyngwladol oddi wrth Ewroganoledd ac Americaniaeth - Dr Isaac Nunoo, Canolfan Astudiaethau Affricanaidd a Rhyngwladol, Prifysgol Cape Coast, Ghana.
Crynodeb
Mae theorïau sydd â phwyslais Ewropeaidd ac Americanaidd wedi llywodraethu ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol (IR) ers cryn amser, gan ymyleiddio'r traddodiadau diplomyddol, cynghreiriau a’r deinameg cydbwysedd grym oedd yn bodoli mewn cymdeithasau yn yr Affrica gyn-wladychol a gwladychol. Bwriad yr astudiaeth hon yw ceisio dadgyplu Cysylltiadau Rhyngwladol oddi wrth eu sylfeini, sydd â phwyslais gorllewinol wrth eu gwraidd, a hynny drwy ystyried ac ymgorffori safbwyntiau Affricanaidd ar ddiplomyddiaeth, ffurfio cynghreiriau a chydbwysedd grym y mae ‘status quo’ Cysylltiadau Rhyngwladol bron a bod wedi’u hymyleiddio yn gwicsotig. Gan ystyried astudiaethau achos, cyfweliadau lled-strwythuredig ac olrhain prosesau, mae’r astudiaeth yn cynnig cip y tu ôl i’r llenni ar rwydwaith cymhleth o ddiplomyddiaeth, ffurfio cynghreiriau, a chydbwysedd grym a luniodd yr Affrica gyn-wladychol a wladychol. Mae'r astudiaeth wedi'i seilio ar theorïau Cysylltiadau Rhyngwladol ôl-wladychol a chritigol, ac mae'n ceisio rhoi ystyriaeth i naratifau amgen sy'n cydnabod dylanwad, gwytnwch, a soffistigedigrwydd cymdeithasau Affricanaidd wrth iddynt gael pen ffordd ym maes cysylltiadau rhyngwladol cyn cael eu gwladychu gan Ewropeaid ac yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae'r canfyddiadau'n cyfrannu at ddealltwriaeth dad-wladychol a lluosogol o faes Cysylltiadau Rhyngwladol, gan feithrin deialog draws-ddiwylliannol, proses o ddysgu ar y cyd a sefydlu trefn fyd-eang fwy teg sy'n gwerthfawrogi epistemolegau a phrofiadau amrywiol yn y De Byd-eang. Yn benodol, mae'r canfyddiadau'n dod â thri ymholiad ysgogol i'r amlwg: mae'n hen bryd i feddylwyr ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol ddad-wladychu eu hunain a'r ddisgyblaeth drwy hepgor y confensiwn o anwybyddu hanesyddiaeth y De Byd-eang – gan fabwysiadu 'dulliau integredig' heb Ewroganoledd nac Americaniaeth; roedd y De Byd-eang ac Affrica yn bodoli ac wedi cael hanes a chysylltiadau diplomyddol cyn "system" Westffalia – neu'r system genedl-wladwriaeth; gall ymgais i gyfyngu digwyddiadau ar gyfandir Affrica i un theori Cysylltiadau Rhyngwladol hollgyffredinol beri problemau – mae galw am ryngddisgyblaeth.
Bywgraffiad
Mae Dr. Isaac Nunoo yn ddarlithydd yn Nghanolfan Astudiaethau Affricanaidd a Rhyngwladol Prifysgol Cape Coast (UCC), Ghana ac yn athro cynorthwyol ym Mhrifysgol Kean, campws Tsieina. Mae dadansoddi polisi tramor, diplomyddiaeth, diogelwch, galluedd mewn cysylltiadau Tsieino-Africanaidd, gwarcheidwadaeth wleidyddol, a thrais etholiadol ymhlith ei ddiddordebau ymchwil. Mae wedi cyhoeddi erthyglau ysgolheigaidd mewn cyfnodolion megis y canlynol: The China Journal, The African Review, Africa Review, Global Affairs, Terrorism and Political Violence, SN Social Sciences, Cogent Social Sciences, Journal of Contemporary African Studies, ac Online Journal of Communication & Media Technology.
Dolen: https://directory.ucc.edu.gh/p/isaac-nunoo
Teitl y Papur: Tuag at Hanesyddiaeth Gothig: Cof, Etifeddiaeth Ddiwylliannol, a Gorffennol Dad-drefedigaethedig – Dr Gavin Murray-Miller.
Crynodeb
Ceir digonedd o alwadau i “ddad-drefedigaethu” y gorffennol heddiw. Gellir dod o hyd iddynt ymhlith ymgyrchwyr gwleidyddol rhyddfrydol ac asgell chwith, yn ogystal ag ymchwilwyr academaidd a phobl sy'n gweithio yn y sector treftadaeth ddiwylliannol. Yn y bôn, mae’r gwaharddebau hyn yn ceisio creu mwy o “amrywiaeth” mewn naratifau traddodiadol Ewroganolog a chynnig gweledigaeth fwy cynhwysol o hanes. Ac eto, wrth i naratifau dad-drefedigaethol ddod yn rhan o gof a diwylliant cyfunol y cyhoedd, mae cwestiynau’n codi ynglŷn â sut mae’r gorffennol hwn i gael ei gynrychioli ac at ba ddiben. Yn fwy penodol, sut mae naratifau radicalaidd a rhyddfreiniol i gael eu trin gan yr hyn a elwir yn “ddiwydiant treftadaeth”, sydd wedi cael ei werthuso gan ddamcaniaethwyr asgell chwith yn rhywbeth sydd yn ei hanfod yn geidwadol ei natur ac yn gwyro tuag at fasnacholi diwylliant? Mae’r hyn y mae’r papur hwn yn ei ystyried yn “hanesyddiaeth gothig” yn trin a thrafod ffyrdd o feddwl am naratifau anghydweddol a chyflwr presennol ysgrifennu am hanes. Mae’n codi cwestiynau ynghylch sut i warchod radicaliaeth y prosiect o ddad-drefedigaethu, yn wyneb diwydiant treftadaeth sy’n bygwth tawelu cymeriad herfeiddiol a hyd yn oed chwyldroadol y prosiect hwnnw. Yng nghanol cyflwr cof a rhyfeloedd diwylliannol heddiw, mae myfyrio ar allu dull “gothig” o ysgrifennu hanes yn ceisio dod o hyd i ffordd rhwng naratifau amrywiaeth ar y naill law a goruchafiaeth Ewroganolog ar y llaw arall, gan godi ymholiadau beirniadol am sut rydym yn cynrychioli straeon cymhleth a gwaddol y gorffennol.
Bywgraffiad y Cyflwynydd
Mae Gavin Murray-Miller yn Ddarllenydd mewn Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n awdur pedwar llyfr ar wleidyddiaeth chwyldroadol ac imperialaeth Ewropeaidd. Y mwyaf diweddar o’r rhain yw Empire Unbound: France and the Muslim Mediterranean (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2022) a Muslim Europe: How Religion and Empire Transformed European Society (Lexington Book, 2024). Yn y gorffennol, mae wedi bod yn gymrawd yn École Normale Supérieur (Paris), Sefydliad Hanes Ewrop Leibniz (Mainz, yr Almaen), a'r Ganolfan Astudio Uwch yn Sofia. Rhwng 2021-2022, roedd yn gymrawd Alexander von Humboldt yn Universität Leipzig.
Ynglŷn â'r gyfres
Yn dilyn y cydweithio llwyddiannus rhwng ein sefydliadau ym maes optometreg, nod Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Cape Coast (UCC), Ghana, yw ehangu ein cydweithrediad i’r celfyddydau a’r dyniaethau. Y seminar hon yw'r gyntaf mewn cyfres arfaethedig a fydd yn trafod yr ymchwil sydd ar y gweill yn ogystal â phaneli neu weithdai sy’n seiliedig ar themâu. Nod y gyfres hon yw cynnig lle ar gyfer trafodaethau ysgolheigaidd sy'n agored i ymchwilwyr ar bob cam gyrfaol, i drin a thrafod meysydd cyffredin a hyrwyddo synergeddau rhwng ein cymunedau ymchwil priodol. Y prif ganolfannau ymchwil ac ysgolion dan sylw yw Canolfan Astudiaethau Affricanaidd a Rhyngwladol UCC, Adran Hanes a Diplomyddiaeth UCC a Phrifysgol Caerdydd: MLANG, ENCAP a SHARE.
Mae'r ddau sefydliad mewn dinasoedd porthladdol sydd â threftadaethau sy’n bwysig yn fyd-eang. Mae Castell Cape Coast, sy’n safle Treftadaeth y Byd UNESCO, yn ein hatgoffa o waddol gorffennol trefedigaethol Gorllewin Affrica. Mae rôl ganolog Caerdydd o ran allforio ac yn ymerodrol hefyd yn nodedig, gyda'r ddinas yn tyfu ar y cyd â thwf diwydiant wedi’i bweru gan lo. Gan ddefnyddio’r hanesion hyn yn fan cychwyn, rydyn ni wedi nodi meysydd allweddol cydnawsedd ymchwil mewn perthynas â themâu craidd cof, treftadaeth, mudo a symudedd a defnyddio’r rhain ar gyfer rhagweld dyfodol cynaliadwy a dad-drefedigaethol. O newid hinsawdd ac addysg ryngwladol i gyfiawnder adferol a gwaddolion caethwasiaeth a threfedigaethedd, mae’r gyfres seminar hon yn dod ag arbenigwyr o Ghana, Cymru a thu hwnt ynghyd mewn deialog teg sy’n canolbwyntio ar y dyfodol. Rydyn ni’n croesawu datganiadau o ddiddordeb gan gyflwynwyr posib. Cysylltwch â Dr Martha Alibah (PCC) malibah@ucc.edu.gh neu Dr Jenny Nelson (Prifysgol Caerdydd) nelsonj4@cardiff.ac.uk