Disgrifiad Sain mewn Gemau Fideo: Cyfieithu vs. Creu
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Siaradwr: Dr Xiaochun Zhang
Crynodeb: Mae chwarae gemau fideo wedi dod yn fath boblogaidd o adloniant yn fyd-eang, ond eto i gyd, mae unigolion â nam ar y golwg yn aml yn wynebu heriau wrth chwarae’r rhan fwyaf o gemau. Mae disgrifiad sain (AD) yn cynnig ateb i hyn drwy gyfieithu elfennau gweledol yn eiriau llafar, gan wneud cynnwys yn hygyrch i'r rheiny sydd wedi colli golwg.
Er bod astudiaethau diweddar yn awgrymu cyfieithu sgriptiau disgrifiad sain ar gyfer ffilmiau a theledu i fod yn strategaeth sy’n gost-effeithiol ledled ieithoedd a diwylliannau, mae’r defnydd o ddisgrifiad sain ar gyfer gemau fideo heb ei ystyried o hyd. Mae’r prosiect Transad4games yn ystyried dulliau o greu a chyfieithu disgrifiadau sain ar gyfer gemau fideo er mwyn gwella hygyrchedd gemau fideo ledled ieithoedd a diwylliannau drwy fynd i'r afael â phedwar cwestiwn ymchwil allweddol. Yn gyntaf, mae'n ystyried a yw cyfieithu yn fwy cost-effeithiol ac effeithlon o ran amser na chreu disgrifiadau sain newydd o'r dechrau. Yn ail, mae'n ystyried y gwahaniaethau rhwng sgriptiau disgrifiadau sain wedi'u cyfieithu a'r rhai a grëir yn uniongyrchol yn yr iaith darged. Yn drydydd, mae'n nodi'r heriau sy'n gysylltiedig â chyfieithu a chreu disgrifiadau sain ar gyfer gemau fideo. Yn olaf, mae'n ymchwilio i ddewisiadau chwaraewyr gemau fideo yng nghyswllt gwahanol fersiynau o ddisgrifiadau sain. Bydd y cyflwyniad hwn yn rhoi cip y tu ôl i’r llenni inni ar ganfyddiadau ymchwil y prosiect ac yn ystyried cyfeiriadau posibl ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.
Bywgraffiad y siaradwr: Mae Dr Xiaochun Zhang yn Ddarlithydd mewn Astudiaethau Cyfieithu yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL), y Deyrnas Unedig. Yn bennaf, mae ei diddordebau ymchwil yn ymwneud â lleoleiddio gemau fideo a’u hygyrchedd, cyfieithu clyweledol gan ffans, a thechnoleg iaith. Hi yw prif ymchwilydd prosiectau Ad4games a Transad4games, sy'n ymchwilio i fewnosod disgrifiad sain mewn gemau fideo i wella eu hygyrchedd. ORCID: 0000-0001-6334-6525
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS