Prosiect Pūtahitanga: CHROMA
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Ers 2023, mae Prosiect Pūtahitanga wedi bod yn gweithio gyda cherddorion o Gymru ac Aotearoa (Seland Newydd) i ymchwilio eu perthynas gyda Chymraeg a te reo Māori (yr iaith Māori). Mae’r gig hwn yn cyflwyno tri band – CHROMA, WRKHOUSE a Cyn Cwsg – sydd yn adfocadau cryf dros ddefnyddio Cymraeg mewn cerddoriaeth boblogaidd. Mae CHROMA wedi bod yn rhan annatod o’r prosiect, ac mae bob un o’r tri band yn cynnwys graddedigion o Ysgol Cerddoriaeth neu Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
Bwriad Prosiect Pūtahitanga yw adnabod a chydnabod pwyntiau cyswllt rhwng cerddorion sydd yn defnyddio Cymraeg a te reo Māori yn eu gwaith a darganfod sut mae'r defnydd hwn yn dylanwadu ar eu teimlad o hunaniaeth, perthyn ac ymrwymiad o fewn sîn cerddoriaeth Cymru ac Aotearoa. Yn brosiect ymchwil cyfredol, dechreuodd fel cydweithrediad rhwng staff o’r University of Waikato yn Aotearoa a Phrifysgol Caerdydd, gyda chydweithwyr ar draws Coleg AHSS (CERDDORIAETH, CYMRAEG ac ENCAP), yn ogystal ag Yr Academi Gymraeg, yn gweithio gyda’i gilydd i gysylltu cerddorion o’r ddwy wlad a datblygu cyfleoedd effeithiol iddyn nhw berfformio yn rhyngwladol a rhannu eu profiadau o iaith a cherddoriaeth.
Cardiff Students' Union
Park Place
Cardiff
CF10 3QN