Effaith Kant ar Athroniaeth Foesol
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Mae Athroniaeth Caerdydd a Kantian Review yn falch i’ch gwahodd chi i ddigwyddiad awdur-a-beirniaid gyda’r Athro Paul Guyer (Prifysgol Brown) ar Ebrill 28ain, yn Siambr y Cyngor, Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd.
Mae llyfr newydd yr Athro Guyer, Kant's Impact on Moral Philosophy (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2024), yn “archwilio’r ymateb i Kant gan athronwyr moesol o bwys o Fichte, Schelling, a Hegel hyd at T.H. Green, Josiah Royce, a Friedrich Nietzsche, i John Rawls, Onora O’Neill, Christine Korsgaard, a Derek Parfitt, gyda llawer mwy ar hyd y ffordd".
Mae’r llyfr yn dadlau mai’r ymatebion mwyaf sylweddol i Kant yw rheini sydd wedi datblygu yn eu ffyrdd eu hun delfryd Kant o rhyddid fel gwerth mewnol y byd.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys ymatebion gan Jens Timmerman (St. Andrews), Catherine Wilson (Efrog), Seiriol Morgan (Bryste), Patrick Hassan (Caerdydd), ac Andrew Vincent a David Boucher (Caerdydd).
Croeso i bawb.
Cysylltwch gyda Dr. Patrick Hassan (hassanp1@cardiff.ac.uk) i gofrestru.
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA