Archwiliwr yr ymennydd
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Rydyn ni’n edrych ymlaen at fod yn rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd eleni. Dewch i ymuno â ni yn Adeilad Hadyn Ellis ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer digwyddiad cyffrous lle gallwch chi roi cynnig ar ychydig o niwrowyddoniaeth a dysgu am yr ymchwil ddiweddaraf ym maes iechyd meddwl.
Dysgwch sut mae’r ymennydd yn gweithio, dysgwch am ymchwil ddiddorol ym maes niwroleg, a chymerwch ran mewn gweithgareddau ymarferol fydd yn herio'ch meddwl. Dyma gyfle gwych i blant a theuluoedd ehangu eu gwybodaeth a chael hwyl yn dysgu am gymhlethdodau’r ymennydd.
Bydd dwy sesiwn ar y diwrnod felly gallwch chi ymuno â ni naill ai rhwng 11am ac 1pm neu rhwng 1pm a 3pm.
Bydd y canlynol ymhlith y gweithgareddau:
- Cromen yr Ymennydd (castell bownsio)
- Gwisgwch i fyny fel gwyddonydd
- Profwch sut beth yw cael sgan ar yr ymennydd gyda realiti rhithwir
- Modelau 3D o ymennydd anifeiliaid
- Dysgwch sut i ddefnyddio microsgop
- Defnyddiwch bibed fel gwyddonydd
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i chwilota’r ymennydd!
Mae Dewch i chwilota’r ymennydd! yn cael ei chynnal gan y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ar y cyd â’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl.
Hadyn Ellis Building
Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ