Addasu Ymbelydredd yr Haul: Beth sydd yn y fantol i gymdeithas?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae Addasu Ymbelydredd yr Haul (SRM) yn trafod ystod o dechnolegau sydd â'r potensial i oeri hinsawdd y Ddaear. Mae Addasu Ymbelydredd yr Haul felly’n destun dadl ddwys ynghylch a allai gynnig modd i fynd i'r afael â chynhesu byd-eang ac effeithiau dinistriol newid yn yr hinsawdd.
Beth yw safbwyntiau a buddiannau rhai o’r rhanddeiliaid allweddol, fel y cyhoedd, busnesau ac arweinyddion gwleidyddol? Sut mae straeon a naratifau o ran SRM yn cael eu datblygu a'u cyflwyno? Sut ddylai gweithgarwch SRM, gan gynnwys ymchwil a defnydd o dechnoleg (neu ddiffyg defnydd ohoni), gael eu rheoli a'u llywodraethu? Pa agwedd y dylai'r UE ei chymryd ar bolisi, ac mewn trafodaethau rhyngwladol ar SRM?
Ymunwch â ni ar gyfer y weminar ryngweithiol hon, sy’n agored i bawb yn rhad ac am ddim. Dyma'r ail mewn cyfres o weminarau sy'n ystyried materion ynghylch Addasu Ymbelydredd yr Haul.
Siaradwyr:
- Dušan Chrenek, Prif Gynghorydd, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Gweithredu dros yr Hinsawdd, Y Comisiwn Ewropeaidd
- Yr Athro Benjamin Sovacool MAE, Cyfarwyddwr Sefydliad Cynaliadwyedd Byd-eang, Prifysgol Boston; Athro Polisi Ynni, Prifysgol Sussex; Cyd-Gadeirydd Gweithgor SAPEA
- Yr Athro Eric Lambin MAE, Grŵp Prif Ymgynghorwyr Gwyddonol
- Yr Athro Aarti Gupta, Athro mewn Llywodraethiant Amgylcheddol Byd-eang, Prifysgol Wageningen; Aelod o Weithgor SAPEA
- Dr Florian Rabitz, Prif Ymchwilydd Grŵp Cymdeithas Sifil a Chynaliadwyedd, Prifysgol Kaunas; Aelod o Weithgor SAPEA