Ewch i’r prif gynnwys

Noson Ail-Laswyr 80au

Dydd Sadwrn, 30 Awst 2025
Calendar 19:30-01:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Alumni from the eighties at a reunion

Gwahoddir holl gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd (gan gynnwys y rhai o UWIST, Coleg Prifysgol Caerdydd a Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru) a ddechreuodd neu a gwblhaodd eu hastudiaethau rhwng 1980-1989, i droi’r cloc yn ôl am un noson ym mis Awst. Dyma gyflwyno: “Noson Ail-laswyr 80au Rhan II”

P’un a ydych am ailgysylltu â hen ffrindiau dros bryd o fwyd a diodydd, neu weld a oes gennych y symudiadau o hyd ar y llawr dawnsio – neu’r ddau – bydd yn noson i’w chofio!

Bydd yr holl elw (ar ôl i ni dalu am y band byw) yn mynd i’r Gronfa Caledi Myfyrwyr. Y llynedd fe gododd Re-Freshers o’r 90au fwy na £5,000 at yr achos teilwng hwn – rydyn ni’n anelu at ddyblu hynny!

Mae llety prifysgol ar gael hefyd ond mae angen ei drefnu ar wahân.

Cardiff Students' Union
Park Place
Caerdydd
CF10 3QN

Rhannwch y digwyddiad hwn