Ewch i’r prif gynnwys

Erlyn Gwrachod a Gwleidyddiaeth Coffáu

Dydd Iau, 20 Chwefror 2025
Calendar 16:00-17:30

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Depiction of witches

Dr Jonathan Durrant / Prifysgol De Cymru

Beth yw diben coffáu’r hanes o erlyn gwrachod a ddigwyddodd ledled Ewrop fodern gynnar a’r Byd Newydd? Beth mae ymgyrchwyr dros gofio hanes o'r fath yn ceisio ei gyflawni? Ydy eu nodau yn ddilys ac o ddefnydd? Gan fy mod i’n hanesydd dewiniaeth yn yr Almaen a Lloegr yn y cyfnod modern cynnar, dyma’r cwestiynau rwy wedi bod yn eu hystyried wrth i’r ymgyrchoedd i gofio hanes erlyn gwrachod ddechrau denu sylw. Yn y papur hwn, bydda i’n canolbwyntio’n benodol ar wleidyddiaeth ymrannol a gwrthdrawiadol coffáu dewiniaeth yn yr Almaen, ac wrth ei gwraidd y mae dadleuon cyd-destunol ynghylch coffáu’r Holocost, mewnfudo a rôl yr eglwys mewn cymdeithas.

Prif ddarlithydd Hanes ym Mhrifysgol De Cymru yw Dr Jonathan Durrant, ac mae’n hanesydd dewiniaeth yn yr Almaen a Lloegr yn y cyfnod modern cynnar. Efe yw awdur Witchcraft, Gender and Society in Early Modern Germany (Brill, 2007) a chyd-olygydd The Historical Dictionary of Witchcraft (Scarecrow Press, 2012). Ar hyn o bryd, mae’n ysgrifennu Witchcraft in World History (i’w gyhoeddi yn 2026) ar gyfer cyfres Themes in World History gan Routledge. Gwnaeth Jonathan hefyd gynllunio ac arwain cwrs byr y Gymdeithas Hanesyddol yn ddiweddar, sef “Dewiniaeth, Blaidd-ddynion, a Hud yn Hanes Ewrop” (2024).

Gweld Erlyn Gwrachod a Gwleidyddiaeth Coffáu ar Google Maps
0.42
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn