Trafodaeth Panel: 'Cofio'r Holocost: Ieithoedd, Technolegau a Chynrychiolaeth'
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Matthew Boswell (Canolfan yr Economi Greadigol, Prifysgol Caerdydd), Dorota Goluch (Prifysgol Caerdydd), Nicola Keller (Prifysgol Caerdydd), Marc Schweissinger (Prifysgol Caerdydd)
Mae Matthew Boswell yn Uwch-gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan yr Economi Greadigol, Prifysgol Caerdydd. Mae Matthew wedi cyhoeddi'n eang ar gynrychiolaeth ddiwylliannol yr Holocost a chyfnodau eraill o drais hanesyddol. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y berthynas rhwng technolegau digidol a diwylliant cof yr Holocost. Cafodd yr ymchwil sy’n sail i’w lyfr diweddaraf, Virtual Holocaust Memory (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2023), ei chefnogi gan Gymrodoriaeth Arweinyddiaeth gan Ganolfan Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) a phrosiect a ariennir gan AHRC o’r enw ‘Virtual Holocaust Memoryscapes’ a oedd yn cynnwys partneriaeth â safleoedd coffa Bergen-Belsen a Neuengamme a Thŷ Anne Frank yn Amsterdam.
Mae Dorota Goluch yn Uwch-ddarlithydd Cyfieithu yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd. Mae ganddi ddiddordeb mewn cysylltiadau rhwng cyfieithu a chofio’r Holocost, yn ogystal â chyfieithu a derbyn llenyddiaeth ôl-drefedigaethol a damcaniaethau sy’n ymwneud ag undod. Ar y cyd â Dr Agnieszka Podpora (Prifysgol Jagiellonian), mae hi ar hyn o bryd yn gweithio ar astudiaeth a ariennir gan yr Academi Brydeinig/Ymddiriedolaeth Leverhulme ar gyfieithu yn Amgueddfa Auschwitz-Birkenau. Bydd Dorota yn trafod rôl cyfieithu yng ngwaith Amgueddfa Auschwitz-Birkenau, gan dynnu ar gyfweliadau â gweithwyr yr Amgueddfa a dadansoddiadau o’r arddangosfeydd. Mae'r Amgueddfa'n dwyn i gof, fel y dywed un cyfwelai, 'un hanes, nifer fawr o atgofion'. Bydd hi’n trafod sut mae cyfieithu yn cael ei ddefnyddio i gyrraedd grwpiau amrywiol o ymwelwyr rhyngwladol. Bydd hi hefyd yn cyflwyno cynllun i gynnal arolwg o ymwelwyr mewn tair amgueddfa a chofadeilad sy’n ymwneud â’r Holocost.
Mae Nicola Keller ym mlwyddyn gyntaf ei PhD ac yn ymchwilio i sut mae plant goroeswyr yr Holocost yn cysylltu â’u hanes pan fydd yr hanes hwnnw mewn ieithoedd nad ydyn nhw'n eu siarad. Mae hi'n dysgu dwy iaith ei threftadaeth er mwyn deall dogfennau a llythyrau sy'n cofnodi erledigaeth gynyddol y teulu Hwngaraidd dosbarth canol hwn, y cafodd y rhan fwyaf ohonyn nhw eu llofruddio yn ystod yr Holocost.
Mae holl ddogfennau teulu Nicola mewn archif yn Llyfrgell Holocost Wiener lle byddan nhw ar gael i ysgolheigion a haneswyr. Mae PhD Nicola yn edrych ar rôl cyfieithu yn y dewisiadau y mae disgynyddion goroeswyr yr Holocost yn eu gwneud i ddiogelu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o erledigaeth eu rhieni a'u neiniau a’u teidiau. Mae hi’n gweithio gyda chyfieithwyr gwirfoddol i ddadansoddi effaith y digwyddiadau sydd wedi’u dogfennu mewn cannoedd o hysbysiadau swyddogol a llythyrau personol.
Cadeirydd y Panel fydd Marc Schweissinger, Darlithydd Almaeneg ac awdur y llyfr Interpreting "Third Reich" and Holocaust Narratives. On the symbioses between fact and fiction (2023).
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS