Arloesi: Dull traws-sector
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae'r digwyddiad, sy’n cael ei gynnal gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, yn dod â sefydliadau amrywiol ynghyd i rwydweithio ac i edrych ar fentrau a chyfleoedd ar gyfer cydweithio traws-sector.
'Mae cydweithio traws-sector - y dull o weithio ar draws sectorau cyhoeddus, preifat a dielw er lles pawb - yn gallu helpu i fynd i'r afael â heriau mwyaf ein hoes' - The Whitehall and Industry Group (WIG) 'Cross - sector Collaboration at Work' Roadmap, 2024.
Gall cydweithio ar draws gwahanol sectorau ein helpu i fynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n ein hwynebu ni heddiw drwy fanteisio ar y wybodaeth, y sgiliau, y profiadau a’r adnoddau unigryw sydd gan bob maes i’w gynnig.
Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydyn ni’n gweithio ar y cyd i ddysgu rhagor ac i greu atebion sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn y gallwn ni ei wneud ar ben ein hunain. Trwy gydweithio ag ystod eang o sefydliadau, rydyn ni’n cyfnewid gwybodaeth a gwaith ymchwil newydd. Rydyn ni’n gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â’r heriau cyfredol mewn ffyrdd y gellir eu defnyddio ar draws gwahanol sectorau a diwydiannau.
Bydd gweithdy’n cael ei gynnal ar 19 Chwefror ble bydd sefydliadau’n cael y cyfle i ddod ynghyd i rwydweithio ac i ddysgu am y gwahanol fentrau a chyfleoedd newydd i weithio gyda’n gilydd ar draws y sectorau gwahanol.
Yn y sesiwn hon bydd cyfres o gyflwyniadau, gan gynnwys:
Sarah Lethbridge, Rhag Ddeon ar gyfer Ymgysylltu Allanol, Prifysgol Caerdydd (Cadeirydd y Digwyddiad)
Dr Neil Bentley-Gockmann OBE, Prif Weithredwr, Grŵp Whitehall & Industry Group (WIG)
Owen Wilce, Rheolwr Arloesedd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Dr Yulia Cherdantseva, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi er Trawsnewid Digidol, Prifysgol Caerdydd.
Yr Athro Peter Wells, Athro Busnes a Chynaliadwyedd, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Ddiwydiant Modurol, Rhag-Ddeon Gwerth Cyhoeddus, Prifysgol Caerdydd.
Ymunwch â ni wrth inni dreiddio'n ddwfn i rym cydweithio a chanfod atebion ar y cyd sy'n cael effaith go iawn ledled sectorau, disgyblaethau a diwydiannau.
sbarc|spark
Heol Maendy
Cathays
Caerdydd
CF24 4HQ