Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiad Panel Wythnos Cydraddoldeb Hil

Dydd Iau, 6 Chwefror 2025
Calendar 15:30-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Hoffai’r Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant estyn gwahoddiad ichi ymuno â ni mewn trafodaeth banel sy’n rhan o Wythnos Cydraddoldeb Hil 2025, o dan y thema #EveryActionCounts. Mae'r thema eleni yn tynnu sylw at yr angen brys i symud y tu hwnt i eiriau a chymryd camau ystyrlon i hyrwyddo cydraddoldeb hil. Gan fod ond 40% o sefydliadau'n canolbwyntio ar weithredu a newid, bydd y panel hwn yn trin a thrafod y ffyrdd y gall unigolion, arweinwyr a sefydliadau sicrhau bod pob cam, waeth pa mor fach, yn cyfrannu at gynnydd gwirioneddol. Bydd y drafodaeth hefyd yn cwmpasu'r safbwynt Cymreig, gan dynnu sylw at y rôl sylweddol y gall Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ei chwarae wrth hyrwyddo'r gwaith pwysig hwn.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys:

  • Bydd trafodaeth banel, dan arweiniad tri siaradwr (yr Athro Uzo Iwobi, yr Athro Emmanuel Ogbonna, a’r Cyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd  Sanjiv Vedi), yn rhoi o’u harbenigedd, eu profiadau a'u strategaethau o ran datblygu cydraddoldeb hil mewn gweithleoedd a chymunedau.
  • Sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa, gan roi’r cyfle ichi drafod yn uniongyrchol â'r panel, gofyn cwestiynau a rhannu syniadau.

Bydd y panel yn cael ei gynnal ddydd Iau 6 Chwefror, 15.30-17.00.

Mae'r digwyddiad hwn yn agored i staff, myfyrwyr a phartneriaid allanol yn y Brifysgol. Cewch gofrestru a chael cyfarwyddiadau ymuno gan lenwi'r ffurflen gofrestru yma: https://forms.office.com/e/8RySYNXWvM

Nodyn am y Siaradwyr:

Yr Athro Uzo Iwobi CBE yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Race Council Cymru, sefydliad sy'n ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb hil, amrywiaeth diwylliannol a chynhwysiant yng Nghymru. A hithau’n gyn-Gwnstabl yr Heddlu ac yn Aelod Annibynnol o Awdurdod Heddlu De Cymru, mae Uzo wedi chwarae rôl greiddiol wrth ddylanwadu ar bolisïau ac ymarfer cydraddoldeb yng Nghymru. Buodd hi’n Gynghorydd Polisi Arbenigol i Lywodraeth Cymru a chafodd ei hurddo’n CBE am ei gwasanaethau i gydraddoldeb hil ac amrywiaeth.

Athro Rheolaeth a Threfniadaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd yw’r Athro Emmanuel Ogbonna CBE, ac mae'n gyd-gadeirydd ar y grŵp sy'n arwain y gwaith o roi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar waith. Mae ei waith, yn sgil ymchwil helaeth ar ddiwylliant sefydliadol, tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant, wedi cael cryn effaith ar ein ddealltwriaeth o anghydraddoldeb hiliol mewn sefydliadau. Cyhoeddwyd ymchwil yr Athro Ogbonna mewn cyfnodolion academaidd blaenllaw, ac mae'n parhau i fod yn eiriolwr dros arferion cynhwysol yn y byd academaidd a'r tu hwnt iddo.

Sanjiv Vedi OBE yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Phennaeth Swyddfa Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru yn Llywodraeth Cymru. Mae wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a gwrth-hiliaeth ledled y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae Sanjiv yn edrych ar y darlun ehangach, gan gydnabod sut mae heriau byd-eang, megis newid yn yr hinsawdd, newidiadau economaidd a mudo, yn effeithio ar gymunedau lleol. Mae hefyd yn hyrwyddo datblygu atebion cynhwysol a blaengar sy’n seiliedig ar y materion hyn.

Rhannwch y digwyddiad hwn