Ewch i’r prif gynnwys

Darlithoedd Wolfson - Meithrin gwydnwch: naw ffordd y gall teuluoedd, ysgolion a chymunedau helpu plant i ffynnu

Dydd Mercher, 12 Chwefror 2025
Calendar 14:00-15:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Michael ungar - wolfson lectures - talk banner

Yn y cyflwyniad cyflym hwn yn llawn straeon, bydd Dr. Ungar yn dangos bod gwydnwch ein plant yn llawer mwy na'u gallu unigol i oresgyn adfyd. Mae hyn o ganlyniad i ba mor dda y mae eu teuluoedd, eu hysgolion, a’u cymunedau’n gweithio gyda’i gilydd i helpu pobl ifanc sy’n agored i niwed lywio’r adnoddau y mae eu hangen arnyn nhw er eu lles, a p’un a ydy’r adnoddau hynny ar gael i blant sy’n gwneud eu profiadau’n ystyrlon. Yn ogystal ag ymchwilio i beth mae gwytnwch yn ei olygu i blant o nifer fawr o wahanol gefndiroedd, bydd Dr. Ungar hefyd yn cynnig naw strategaeth ymarferol y gall rhieni, rhoddwyr gofal ac addysgwyr eu defnyddio i helpu plant i wella, ni waeth beth fo’u problemau emosiynol, seicolegol neu ymddygiadol.

Dyma amcanion dysgu penodol y cyflwyniad hwn:

  1. Deall sut mae plant a theuluoedd ag anghenion cymhleth yn defnyddio ymddygiadau "problematig" i wella eu gwytnwch a'u lles pan nad oes atebion mwy derbyniol yn gymdeithasol ar gael;
  2. Dod yn gyfarwydd â sut i asesu gwydnwch;
  3. Dysgu am naw adnodd sy'n hybu gwytnwch sy'n angenrheidiol i ddatblygiad cadarnhaol plant;
  4. Datblygu strategaethau i weithio heb wrthwynebiad gyda phlant, pobl ifanc sy'n anodd eu cyrraedd, yn ddiwylliannol amrywiol, a'u teuluoedd;
  5. Trafod ffyrdd y gellir strwythuro gwasanaethau ar gyfer plant a theuluoedd sy'n gwneud gwytnwch yn fwy tebygol o ddigwydd.

Rhannwch y digwyddiad hwn