Ewch i’r prif gynnwys

Ffair Postgrad LIVE yng Nghaerdydd

Dydd Mercher, 19 Chwefror 2025
Calendar 12:00-15:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Postgrad students talking at a table

Ydych chi’n ystyried astudio ar gyfer gradd meistr neu PhD? Ffair Postgrad LIVE yng Nghaerdydd yw eich cyfle i gael gwybod pa gyfleoedd sydd ar gael i ôl-raddedigion yn nifer o’r prifysgolion gorau, gan gynnwys sut i fanteisio arnyn nhw.

Mae dwy ran i ffair Postgrad LIVE: arddangosfa lle gallwch chi siarad â chynrychiolwyr prifysgolion, a rhaglen gyflwyniadau sy’n cael ei chynnal yn yr un lleoliad. Gallwch chi symud rhwng y naill neu’r llall gymaint ag yr hoffech chi a mynd i gymaint o gyflwyniadau ag y dymunwch chi.

Bydd man pwrpasol ar gyfer gofyn cwestiynau i’n harbenigwyr mewn addysg ôl-raddedig, dim ots a ydyn nhw’n ymwneud â sicrhau cyllid, gwneud cais, astudio neu rywbeth arall.

Dewch i drafod eich opsiynau, cael cyngor ar gyllid a chael gwybod sut beth yw astudio ar gyfer graddau meistr a PhD mewn gwirionedd.