Technolegau’r Hunan ym myd yr YouTuber: Ymddygiad Vigilante yn y Byd Digidol, Gwrywdodau ac Economi Sylw yn y Siapan Neoryddfrydol
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Seminar gyhoeddus gyda Dr Yoko Demelius (Prifysgol Turku) a Dr Yukata Yoshida (Prifysgol Caerdydd).
Mae'r seminar hon yn trafod ymchwiliad i ymddygiad vigilante ar YouTube yn Siapan heddiw. Er bod astudiaethau wedi trafod y berthynas rhwng ymddygiad vigilante a’r heddlu cyhoeddus, a rôl technoleg yn y duedd o ecsploetio gwelededd, prin fu’r ymdrechion i egluro cynnydd gweithgareddau o’r fath o safbwynt hunaniaeth a diwylliant. Rydym yn ymdrin â hyn trwy edrych ar YouTubers vigilante yn Siapan heddiw sy'n rhannu ffilmiau yn amlygu’r weithred o ddal ac weithiau arestio unigolion sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau anghyfreithlon.
Wrth wneud hynny, rydym yn defnyddio ‘technolegau'r hunan’, chwedl Foucault, fel fframwaith damcaniaethol. Rydym yn archwilio syniadau o wrywdod ac entrepreneuriaeth yn y Siapan neoryddfrydol trwy ganolbwyntio ar gysyniadoli hunaniaeth y vigilante sy’n ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Mae ein dadansoddiad yn datgelu bod gweithgarwch vigilante yn cael ei ysgogi gan yr uchelgais i arddangos gwrywdod, rhagoriaeth foesol, a rolau cymdeithasol parchus yn Siapan heddiw, lle mae gwrywdod hegemonaidd, disgwyliadau anhyblyg o ran rôl rhywedd, a’r cysyniad o gymdeithas ‘briodol’ sy’n gweithio’n dda yn cael eu hail-drafod.
John Percival Building
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU