Ewch i’r prif gynnwys

Defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn meddygaeth, a’r goblygiadau o wneud hynny

Dydd Iau, 10 Ebrill 2025
Calendar 19:00-20:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Science in Health Public Lecture series logo

Nid yw defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) mewn meddygaeth yn ddatblygiad diweddar o bell ffordd. Mae dysgu peirianyddol a modelau iaith mawr (LLMs) wedi cael eu cymhwyso mewn ymchwil ac ymarfer clinigol ers blynyddoedd lawer, er enghraifft, cyflwyno platfform ELIZA yn y 1960au a oedd yn dangos sut gallai sgwrs efelychiadol â pheiriant edrych.

Heddiw, mae deallusrwydd artiffisial wedi profi i fod yn effeithiol ym maes meddygaeth atgenhedlu a dewis embryo yn rhan o ffrwythloni in vitro (IVF), gan werthuso ansawdd embryo yn fwy manwl gywir nag y mae bodau dynol wedi gallu ei wneud. Mae'r un peth yn wir o ran geneteg a genomeg, radioleg, oncoleg, llawfeddygaeth, ac arbenigeddau eraill. Mae datblygiadau arloesol o'r fath yn tynnu sylw at y rôl y bydd systemau deallusrwydd artiffisial yn ei gyflawni yn y gweithle yn y dyfodol.

Mae gan AI cynhyrchiol hefyd y potensial i wella strategaethau atal ac ymyrraeth gynnar, yn ogystal ag i wella hyfforddiant a chynnig dewisiadau newydd o ran triniaeth. Fodd bynnag, mae gofyn i ystyried yn ofalus sut y caiff technoleg chwyldroadol a thrawsnewidiol o'r fath ei defnyddio yn foesegol, yn ddiogel ac yn briodol.

Yn ystod y cyflwyniad hwn byddwn ni’n trin a thrafod sut gall deallusrwydd artiffisial wneud ein bywydau yn haws, os caiff ei cofleidio'n gyfrifol.

Rhannwch y digwyddiad hwn