Ewch i’r prif gynnwys

Cyd-ddatblygu cymorth iechyd meddwl digidol gyda phobl ifanc

Dydd Iau, 20 Mawrth 2025
Calendar 19:00-20:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Science in Health Public Lecture series logo

Mae llawer o bobl ifanc yn profi iselder a gorbryder ond dydyn nhw ddim yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw bob amser. Mae canllawiau cyfredol yn argymell offer digidol yn ffordd ddefnyddiol o gefnogi iechyd meddwl, ond mae angen rhaglenni mwy hygyrch sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Cafodd y rhaglen ddigidol ddwyieithog, MoodHwb, ei datblygu ar y cyd â phobl ifanc â phrofiad byw o iselder, ynghyd â rhieni, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol, a chwmni cyfryngau digidol. Nod MoodHwb yw cefnogi pobl ifanc i reoli eu hwyliau a'u lles.

Yn y sesiwn hon, bydd Dr Bevan Jones yn cyflwyno'r rhaglen ddigidol, yn rhannu sut y cafodd ei datblygu ac yn trafod sut y mae wedi cael ei gwerthuso hyd yn hyn.

Rhannwch y digwyddiad hwn