Mathau o Amnesia: Rhai go iawn ac wedi'i efelychu
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Fel arfer, dyw’r ffordd y mae’r cyfryngau yn portreadu amnesia ddim yn adlewyrchu’r realiti. Yn gyntaf oll, bydda i’n mynd ati i ddisgrifio gwahanol fathau o amnesia sy'n deillio o anaf i'r ymennydd. Mae gan y cyflyrau hyn nid yn unig bwysigrwydd clinigol, ond maen nhw wedi helpu i daflu goleuni ar y rhaniadau a geir rhwng gwahanol fathau o gof, gan gynnwys cof 'echblyg' o’i gymharu â chof 'ymhlyg', a chof ‘tymor byr’ o’i gymharu â chof ‘hirdymor’.
Mewn rhai achosion, mae difrifoldeb yr amnesia yn drech na lefel ymddangosol patholeg yr ymennydd. Caiff amryw fathau o amnesia ‘seicogenig’ ei disgrifio. Yn olaf, rhoddir ystyriaeth i fathau efelychiadol o amnesia. Ceir amryw o resymau pam y gallai rhywun esgus bod yn anghofus (neu ffugio cael amnesia). Tasg y seicolegydd yw pennu a yw'r amnesia yn ddilys.