Ewch i’r prif gynnwys

Meddygaeth ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio: lle mae celf a gwyddoniaeth yn cwrdd â’i gilydd

Dydd Iau, 16 Ionawr 2025
Calendar 19:00-20:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Science in Health Public Lecture series logo

Rydyn yn byw bywydau hirach, ond sut gallwn ni fyw'n iach tan y diwedd? Yn y cyflwyniad hwn byddwn ni’n ystyried cwestiynau tabŵ am heneiddio. Byddwn ni’n edrych ar Gynllun A — aros yn ifanc am byth, ond hefyd ar Gynllun B — y pethau y gallwn ni eu gwneud yn unigolion, yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac yn gymdeithas a fydd yn helpu pobl hŷn i osgoi'r niwed sy'n gynhenid mewn systemau meddygol modern. Statinau, gin, dadebru - bydda i’n egluro sut gall cleifion a meddygon weithio gyda'i gilydd i rannu penderfyniadau cymhleth a strwythuro ein gofal gan ystyried yr hyn sy'n bwysig i bob unigolyn. Nid yw’n beth doeth datblygu rhagfarn yn erbyn ein hunain yn y dyfodol!

Bydd y newidiadau rydyn ni'n eu gwneud nawr yn diffinio sut mae pobl hŷn yn cael eu trin heddiw a sut y byddwn ni ein hunain yn cael ein trin pan fyddwn ni’n hŷn — ni yw'r boblogaeth sy'n heneiddio.

Rhannwch y digwyddiad hwn